Carcharu Nathan Gill am 10 mlynedd am lwgrwobrwyo

Nathan Gill
Ffynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, wedi'i ddedfrydu i 10.5 mlynedd o garchar.

Ym mis Medi fe blediodd yn euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo (bribery) tra'n aelod etholedig o Senedd Ewrop a phlediodd yn ddieuog i gyhuddiad o gynllwynio i lwgrwobrwyo.

Clywodd llys yr Old Bailey ddydd Gwener fod Gill, 52 o Langefni ar Ynys Môn, wedi derbyn tâl gwerth miloedd o bunnoedd i roi cyfweliadau teledu a gwneud areithiau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Cheema-Grubb fod Gill wedi "camddefnyddio safle o awdurdod ac ymddiriedaeth sylweddol" a'i fod wedi "troseddu'n barhaus".

Bu Nathan Gill yn aelod o Senedd Ewrop dros UKIP, ac yn ddiweddarach Plaid Brexit, rhwng 2014 a 2020.

Ef oedd arweinydd UKIP yng Nghymru rhwng 2014 a 2016, ac roedd yn arweinydd Reform UK yng Nghymru rhwng Mawrth a Mai 2021.

Disgrifiad,

Nathan Gill yn cyrraedd yr Old Bailey fore Gwener

Dywedodd yr erlynydd, Mark Heywood KC, wrth y llys fod Gill wedi cael ei stopio ym maes awyr Manceinion ar 13 Medi, 2021 wrth deithio i Rwsia i fynychu cynhadledd wyddonol.

"Cafodd ei ffôn symudol ei atafaelu a'i archwilio gyda'i gynnwys yn cael ei lawrlwytho," meddai Mr Heywood.

"Mae'r brif dystiolaeth yn yr achos hwn i gyd yn dod o gynnwys y ffôn hwnnw."

Daeth yr heddlu o hyd i sgyrsiau WhatsApp ar ei ffôn a oedd yn dyddio'n ôl i fis Medi 2018 gyda dyn o'r enw Oleg Voloshyn - cyn-aelod o senedd Wcráin dros blaid a oedd yn gefnogol o bolisïau Rwsia.

Roedd cynnwys ar ffôn Gill yn dweud y byddai'n cael ei "wobrwyo'n deg" am drefnu digwyddiad yn Senedd Ewrop yng Ngorffennaf 2019 ac yn trafod "ennill cefnogaeth sawl ASE".

'Anrhegion Nadolig yn gôd am daliadau'

Clywodd y llys fod Mr Voloshyn wedi defnyddio anrhegion Nadolig fel cod am daliadau i Gill.

Mewn neges i Gill ym mis Rhagfyr 2018, dywedodd Mr Voloshyn fod Gill wedi derbyn "yr anrhegion Nadolig oedd wedi'i addo i gyd" a'i fod "wedi gofyn am bum cerdyn rhodd arall".

Dywedodd Mr Heywood mai dyma oedd ffordd Mr Voloshyn o gyfeirio at y "symiau o arian" i'w rhoi i Gill.

Mae negeseuon eraill yn cadarnhau mai'r oligarch Wcrainaidd Viktor Medvedchuk oedd "ffynhonnell yr arian", meddai.

Clywodd y llys fod Gill wedi darllen o sgript y gwnaeth Mr Voloshyn ei roi iddo mewn dadl yn Senedd Ewrop, ac roedd yn codi pryderon am fygythiadau yn Wcráin i gau dwy sianel deledu - 112 Ukraine a NewsOne.

"Mae'n amlwg ei fod wedi darllen o'r sgript oedd ganddo. Mae'n glir fod geiriau'r sgript, ar ôl gweld y negeseuon, yn gysylltiedig â'r drafftiau a anfonwyd ato gan Mr Voloshyn," meddai'r erlynydd.

'4K am ddod o hyd i ddau arall'

Yn dilyn y sesiwn, anfonodd Gill ddolen i fideo YouTube o'i araith i Voloshyn gyda'r neges "Dylai V fod yn falch o hyn".

Clywodd y llys fod Mr Voloshyn hefyd wedi gofyn i Gill gymryd rhan mewn dadl yn Senedd Ewrop ynghylch Kazakhstan ym mis Mawrth 2019.

Dywedodd Mr Heywood fod araith Gill wedi cael ei phostio ar-lein gan y Senedd ac roedd yn cyfateb i ddrafftiau a anfonwyd ato gan Mr Voloshyn.

Ym mis Chwefror 2018, gofynnodd Mr Voloshyn i Gill "ddod o hyd i ddau arall" yn Senedd Ewrop a allai hefyd gael eu talu i ymddangos yn y cyfryngau.

Dywedwyd wrtho y byddai'n cael "4K arall amdano", meddai Mr Heywood wrth y llys.

Dywed yr erlynydd Mark Heywood bod gweithredoedd Gill yn "weithgaredd parhaus dros gyfnod o amser".

Ychwanegodd ei fod yn "gamddefnydd o safle o bŵer neu ymddiriedaeth" er budd ariannol iddo'i hun ac eraill.

Yn amddiffyn, dywedodd Peter Wright KC, fod Gill yn cydnabod ei fod wedi siomi "y rhai agosaf ato", ac wedi gadael ei wraig a'i blant gyda "dyfodol ansicr ac anodd o straen ariannol ac emosiynol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.