Agor llysoedd barn newydd Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Dydd Llun agorwyd Llysoedd Barn Wrecsam yn swyddogol gan Syr Nicholas Wall, Llywydd yr Adran Teulu.
Yn ôl Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, mae'r hen lysoedd ynadon wedi cael eu gweddnewid yn "ganolfan o'r radd flaenaf, sydd â'r adnoddau i ddelio ag achosion troseddol, sifil a theulu".
"Fel rhan o'r prosiect, crëwyd pedair ystafell llys, dwy ystafell wrandawiadau, a chyfleusterau modern sy'n creu rhagor o hyblygrwydd yn y ffordd y darperir gwasanaethau'r llys yn lleol", yn ôl y gwasanaeth.
"Ystyriwyd anghenion y cyhoedd a holl ddefnyddwyr y llys wrth gynllunio'r adeilad er mwyn sicrhau y darperir cyfiawnder yn effeithiol ac effeithlon," meddai Syr Nicholas Wall, Llywydd yr Adran Teulu.
Dywedodd Mark Swales, Cyfarwyddwr Cyflawni GLlTEM Cymru, bod y ganolfan newydd yn dangos "ein hymrwymiad i sicrhau fod gan ddefnyddwyr llys yn Wrecsam fynediad at system gyfiawnder o'r radd flaenaf".
"Trwy gael y Llys Ynadon a'r Llys Sirol yn yr un adeilad, darperir cyfleuster hwylus sydd wedi'i deilwra ar gyfer diwallu anghenion defnyddwyr llys yn lleol."
Cyfleusterau
Mae'r cyfleusterau yn y ganolfan llysoedd newydd yn cynnwys:
• Pedair ystafell llys a dwy ystafell wrandawiadau sydd â'r cyfarpar priodol i wrando achosion teulu, troseddol a sifil;
• Man aros wedi'i ailwampio ar gyfer y cyhoedd a chyfleusterau caffi;
• Dolenni clyw ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw ym mhob ystafell llys;
• Cyfleusterau linc fideo;
• Dociau diogel;
• Man aros ar wahân ar gyfer tystion a dioddefwyr bregus.
Mae'r llysoedd ar eu newydd-wedd yn cael eu defnyddio ers mis Ebrill eleni.