Cyngor yn dal i ddisgwyl am eglurhad dros ohirio adroddiad Neil Foden

Neil FodenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydy'r awdurdod wedi derbyn unrhyw esboniad ynglŷn â pham y cafodd adolygiad o brosesau diogelu plant yn sgil troseddau Neil Foden ei ohirio funud olaf.

Roedd disgwyl i ganfyddiadau'r ymchwiliad hirddisgwyliedig gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru gael eu cyhoeddi ddydd Mercher diwethaf.

Ond daeth cadarnhad brynhawn Mawrth na fyddai hyn yn digwydd tra bod y bwrdd yn "ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth ymhellach".

Y llynedd cafodd Foden - a oedd yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - ei garcharu am 17 mlynedd, wedi ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol.

Fe wnaeth hyn sbarduno Adolygiad Ymarfer Plant, gyda'r bwriad o ystyried rôl yr asiantaethau a pha wersi sydd i'w dysgu.

Cyfaddefodd prif weithredwr Cyngor Gwynedd fod yr awdurdod wedi disgwyl "adroddiad poenus".

Ond mewn diweddariad i gynghorwyr brynhawn Iau, fe bwysleidiodd Dafydd Gibbard nad oedd y cyngor wedi chwarae unrhyw ran ym mhenderfyniad y bwrdd i ohirio cyhoeddi'r adroddiad.

Ychwanegodd hefyd nad oedd y cyngor wedi derbyn unrhyw esboniad o resymeg y bwrdd dros wneud hynny.

Yn annerch cyfarfod llawn o'r cyngor yng Nghaernarfon, dywedodd Mr Gibbard nad oedd unrhyw drafodaeth wedi bod gyda nhw cyn i'r bwrdd gadarnhau mewn e-bost eu bod yn gohirio cyhoeddi'r adolygiad yn hwyr brynhawn Mawrth.

"Roeddwn yn syllu ar y sgrin mewn anghrediniaeth am rai munudau," meddai, gan gyfeirio at "rwystredigaeth" yr awdurdod.

"Fydd gan bawb ei theori, mae hyn yn naturiol. Un theori ydy bod y cyngor wedi gofyn am ohirio'r adroddiad. Dydi hyn ddim yn gywir."

Adeilad Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weithredwr y cyngor eu bod am i'r adroddiad gael ei gyhoeddi er mwyn gallu "dysgu a gwella"

Gan dderbyn y byddai'r adroddiad yn "un poenus i'r cyngor", fe ychwanegodd Mr Gibbard:

"Roedd dydd Mercher diwethaf yn rhyw fath o ben llanw. Rydan ni i gyd isho fo i ddod allan, ac i ddysgu a gwella.

"Mae bod yn amddiffynnol yn wastraff egni ac yn gwneud cam gyda'r dioddefwyr. Fyddwn yn croesawu cynnwys yr adroddiad ac yn rhoi ein holl egni i wella.

"Beth sy'n amlwg ydi fod nhw [y bwrdd] heb wneud y penderfyniad ar chwarae bach a doedden nhw ddim isho bod yn y sefyllfa yma.

"Ond os ydan ni'n rhwystredig, mae'r effaith ar ddioddefwyr yn lawer iawn mwy."

Yn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, ychwanegodd arweinydd Cyngor Gwynedd ei bod yn "awyddus i weld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib".

"Rydym wedi cysylltu'n ffurfiol gyda'r Bwrdd Diogelu i ofyn am esboniad ond yn anffodus hyd yma does gennym ddim gwybodaeth am y rhesymau am yr oedi," meddai'r cynghorydd Nia Jeffreys.

"Mi alla i roi sicrwydd i'r cyngor nad oedd gan Gyngor Gwynedd unrhyw ran i'w chwarae yn y penderfyniad ac rydym yn awyddus i weld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib."

'Siom enfawr'

Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru wedi cael cais i ymateb.

Ond mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y bwrdd eu bod, gyda gofid, wedi "gwneud y penderfyniad anodd i ohirio cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder' er mwyn ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth".

"Rydym yn sylweddoli bod hyn yn siom enfawr i bawb dan sylw, yn enwedig y merched a'r plant dewr hynny sydd wrth wraidd yr adolygiad hwn. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu amserlen ddiwygiedig cyn gynted ag y bydd yn bosibl."

"Mae'r rhai sy'n arwain yr adolygiad yn parhau â'u cyfrifoldebau o ganolbwyntio ar les dioddefwyr yn ystod yr amser anodd hwn, fel sydd wedi bod yn digwydd drwy gydol cyfnod yr adolygiad."