Cyngor Môn i gyflwyno her gyfreithiol dros fferm solar ddadleuol

Bydd y paneli yn cael eu gosod i'r de o Lyn Alaw
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Môn yn bwrw 'mlaen gyda chyflwyno her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu fferm solar ddadleuol.
Byddai datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli'n cael eu gosod dros tua 660 acer o dir amaethyddol rhwng Llantrisant a Llannerch-y-medd, er gwaethaf pryderon llawer o bobl leol.
Ond wedi i gyfarfod o'r cyngor llawn gefnogi'r egwyddor o herio'r penderfyniad, daeth cadarnhad ddydd Iau y bydd Cyngor Môn yn cyflwyno her gyfreithiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
'Pryder yn ein cymunedau'
Byddai datblygiad 160MW Alaw Môn yn creu digon o ynni i bweru tua 34,000 o dai - sydd gyfystyr â phob cartref yn y sir.
Wrth ganiatáu'r cais fis Awst cyfeiriodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, at yr angen i gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy.
Mae'r llywodraeth eisiau gweld 70% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030.

Fe bleidleisiodd cynghorwyr sir o blaid yr egwyddor o lansio her gyfreithiol mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf
Ond poeni am golli tir amaethyddol o safon mae llawer yn lleol.
Fore Iau penderfynodd y pwyllgor gwaith mai'r cyngor yn cyflwyno her gyfreithiol ei hun - yn hytrach na chyfrannu'n ariannol at ymdrechion grŵp arall - fyddai'r ffordd orau ymlaen.
Does dim amcan o gost unrhyw her gyfreithiol wedi ei wneud yn gyhoeddus hyd yma.
Dywedodd yr arweinydd, Gary Pritchard: "Fel cyngor, rydym wedi mynegi ein siom a'n rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad fferm solar Alaw Môn, yn groes i'w bolisïau ei hun mewn perthynas â defnyddio tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.
"Mae'r datblygiad arfaethedig wedi creu llawer iawn o bryder yn ein cymunedau a phryderon am ddiogelwch bwyd yn y dyfodol."
Y disgwyl yw byddai'n cymryd tua 12 mis i adeiladu'r datblygiad solar arfaethedig, fyddai'n weithredol am 40 mlynedd cyn cael ei ddatgomisiynu.
Clywodd cynghorwyr yn ddiweddar fod y dyddiad cau i gyflwyno unrhyw her gyfreithiol ar 7 Hydref.

Mae eisoes sawl datblygiad solar ar yr ynys. Cafodd datblygiad Porth Wen, ger Cemaes, ganiatâd cynllunio yn 2017 er gwaethaf gwrthwynebiad lleol
Mae'r penderfyniad i herio wedi denu cefnogaeth drawsbleidiol yn y siambr, er i'r grŵp Llafur benderfynu ymatal eu pleidlais.
Ychwanegodd arweinydd yr wrthblaid annibynnol, y Cynghorydd Aled Morris Jones: "Fedrwn ni ddim fforddio colli tir amaethyddol gwerthfawr.
"Mae'r prosiect hwn gyfystyr â boddi ardal, yn union fel Tryweryn, ond boddi gyda phaneli solar yn yr achos hwn, yn hytrach na gyda dŵr."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, arweinydd y grŵp annibynnol sy'n rhan o'r glymblaid sy'n gweinyddu gyda Phlaid Cymru: "Mae'r gweinidog a'r arolygiaeth wedi fy siomi a chredaf y dylem wneud popeth posib i wrthdroi'r penderfyniad hwn a wnaed yng Nghaerdydd."
'Buddion yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol'
Oherwydd maint y cynllun, roedd ei ganiatáu yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru yn hytrach na'r cyngor, sydd fel rheol yn gyfrifol dros geisiadau cynllunio.
Byddai storfa batri hefyd yn cyflenwi'r grid cenedlaethol ar gyfnodau pan fo'r galw ar ei uchaf, gan gyfrannu tuag at ymdrechion i ddad-garboneiddio.
Wrth ganiatáu'r datblygiad fe ddywedodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol".
Y gred yw bod Enso Energy, sef y datblygwyr y tu ôl y cynllun, am gynnig cronfa gymunedol etifeddol gwerth tua £32,000 y flwyddyn (tua £1.28m ar hyd oes y prosiect) at fuddion y gymuned leol.

Roedd tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Amlwch yn ddiweddar i wrthwynebu datblygiadau solar
Cafodd y penderfyniad am y cynllun ei oedi ym mis Tachwedd 2024 yn sgil dros 500 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Roedd dros 900 o bobl hefyd wedi llofnodi llythyr agored yn gwrthwynebu'r cais.
Mae datblygiad ar wahân gan gwmni arall, Lightsource BP, ar gyfer cynllun solar llawer mwy hefyd wedi ei gyflwyno.
Byddai'r cynllun 350MW i'r gogledd a'r dwyrain o Lyn Alaw bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.
Ond tra'n mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd, mae ei faint yn golygu mai Llywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru na Chyngor Môn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl