Dynes sy'n byw ger synagog Manceinion ag 'ofn ofnadwy'

ManceinionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn trin y digwyddiad fel ymosodiad terfysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae Iddewes a gafodd ei gorfodi i adael ei chartref ger y synagog ym Manceinion - ble y cafodd pobl eu lladd fore Iau - yn dweud y bu ganddi "ofn ofnadwy" yn ystod y digwyddiad.

Mae Mary Green, sy'n siarad Cymraeg, yn byw dafliad carreg i ffwrdd o Synagog Heaton Park ac roedd hi yn ei chartref pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe ddigwyddodd ar Yom Kippur - y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig - ac mae'r heddlu'n ei drin fel ymosodiad terfysgol.

Mae'r prif weinidog Eluned Morgan wedi ei disgrifio fel "gweithred ffiaidd a llwfr", gan ychwanegu fod "ymosodiad ar bobl o ffydd, wrth weddïo, yn ymosodiad ar y gwerthoedd sy'n annwyl i ni i gyd".

Disgrifiad,

Mae Mary Green yn byw ger y synagog ble digwyddodd yr ymosodiad

Cafodd yr heddlu eu galw i Middleton Road tua 09:30 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod pobl wedi cael eu hanafu gan gar ac eraill wedi eu trywanu.

Cyrhaeddodd swyddogion arfog o fewn 10 munud, gan saethu un person.

Roedd yn ymddangos fel petai'r ymosodwr yn gwisgo dyfais ffrwydrol, ond mae'r heddlu'n dweud na fyddai'r ddyfais wedi gweithio.

Ond oherwydd y posibilrwydd o ffrwydron, roedd cyfyngiadau dros ardal eang a thrigolion yn gorfod gadael eu cartrefi.

'Coesau wedi mynd fel jeli'

Un o'r rheiny oedd yr Iddewes, Mary Green.

"Roeddwn i'n barod i fynd i'r shower, a dyma fi'n clywed rhyw dwrw od, fel tasa rhywun wedi crasho mewn i rhywbeth," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Dyma fi'n mynd allan ar y balconi, and all hell let loose. Ambiwlansys, plismyn yn bob man.

"Ar ôl rhyw hanner awr oedd y dynion tân yn cnocio ar y drŵs, yn d'eud bo' nhw'n evacuatio ni - bo' ni ddim yn saff lle oeddan ni.

"Pan oeddan ni'n gweld bob dim yn mynd 'mlaen oedd ganddon ni ofn ofnadwy - o'dd fy nghoesa' i 'di mynd fel jeli, a 'nghalon i'n mynd."

ManceinionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Yom Kippur - y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau fod dau berson Iddewig wedi marw, ynghyd â thrydydd person a gafodd ei saethu'n farw gan yr heddlu.

Mae pedwar person yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi disgrifio'r ymosodiad fel "gweithred ffiaidd a llwfr"

Yn ymateb i'r digwyddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Ar Yom Kippur, y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig, diwrnod o heddwch, myfyrdod a chymod, ni ddylai neb orfod ofni trais.

"Heddiw eto, ym Manceinion, ymosodwyd ar aelodau'r gymuned Iddewig wrth iddynt ymgynnull mewn gweddi.

"Mae hon yn weithred ffiaidd a llwfr.

"Mae ein meddyliau gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a phawb a adawyd wedi'u hysgwyd - nid yn unig ym Manceinion, ond ar draws y gymuned Iddewig yma yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae ymosodiad ar bobl o ffydd, wrth weddïo, yn ymosodiad ar y gwerthoedd sy'n annwyl i ni i gyd. Fel Prif Weinidog Cymru, rwy'n sefyll mewn undod â'n cymunedau Iddewig.

"Rhaid i ni i gyd barhau i weithio gyda'n gilydd i adeiladu gwlad lle gall pawb fyw'n rhydd rhag ofn."

Nathan Abrams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Nathan Abrams nad yw'n synnu gweld ymosodiad o'r fath

Mae plismyn ychwanegol i'w gweld tu allan i addoldai Iddewig yng Nghymru wedi'r digwyddiad.

Ond mae rhai Iddewon wedi dweud nad ydyn nhw'n synnu o weld ymosodiad o'r fath.

Dywedodd yr Athro Nathan Abrams, sy'n aelod o'r gymuned Iddewig: "Dwi ddim yn synnu, oherwydd pan mae problemau yn y Dwyrain Canol, mae Iddewon dros y byd yn cael y bai.

"Felly yn anffodus 'da ni'n disgwyl digwyddiadau fel hyn - dyna pam mae 'na lot o ddiogelwch tu allan i synagogau ym Mhrydain."

Mae Mary Green ym Manceinion yn cytuno.

"Ers bob dim sy 'di mynd 'mlaen yn Israel a Palestine, o'dd pawb yn disgwyl i rywbeth ddigwydd dwi'n meddwl.

"Felly dwi'n teimlo," meddai.