Dyddiad cau i gyflwyno sylwadau ar addysg Gymraeg yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Dydd Gwener yw'r cyfle olaf i gyflwyno sylwadau ar gynllun addysg Gymraeg Cyngor Abertawe ar gyfer 2012-2015.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi cynigion i gynyddu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, gwella llythrennedd plant a chynyddu lleoedd ysgol yn y blynyddoedd i ddod.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, crëwyd mwy na 700 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn Abertawe i ateb y galw cynyddol gan deuluoedd lleol i'w plant dderbyn addysg Gymraeg.
Mae mudiad sy'n ymgyrchu dros addysg Gymraeg wedi croesawu'r cynllun ond yn gresynu nad oes targedau penodol nac amserlen i'w cyflawni.
'Annelwig'
Dywedodd Heini Gruffudd o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wrth BBC Newyddion Ar-lein: "Mae targedau fel 'cynnydd os oes cyllid ar gael' yn annelwig, a modd eu hystyried yn ddatganiadau negyddol.
"Mae RhAG am weld y Sir yn anelu at gynnydd o ryw 30% yn y ddarpariaeth, yn unol â chanllawiau Strategaeth Addysg Gymraeg y llywodraeth.
"Mae RhAG hefyd am weld y sir yn rhoi targedau pendant ar sut i ddarparu ar gyfer y galw am addysg Gymraeg sydd rwng 25% a 35% os oes ysgol Gymraeg ar gael yn gyfleus.
"Yn unol â hyn, mae RhAG am weld sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ardal Gogledd Gŵyr-Tregwyr fel y cam nesaf.
"Erbyn 2015 bydd y ddwy ysgol gyfun Gymraeg yn llawn, felly mae RhAG am weld y sir yn cynllunio ar gyfer sefydlu trydedd ysgol gyfun Gymraeg erbyn 2015-2016."
'Ymroddedig'
Ond dywedodd y Cynghorydd Mike Day, Aelod y Cabinet dros Addysg: "Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i ateb y galw am addysg Gymraeg a chrëwyd 735 o leoedd ychwanegol ers 2006.
"Fodd bynnag, wrth i'r galw barhau i gynyddu, mae'r cyngor yn gosod her i'w hun i wella'r hyn y gall ei gynnig ymhellach dros y blynyddoedd sydd i ddod.
"Bydd llawer o waith i'w wneud ac mae'r cyngor yn bwriadu gweithio'n agos ag ysgolion, llywodraethwyr, disgyblion a grwpiau eraill â diddordeb, megis RhAG, i sicrhau bod ein cyd-ddyheadau'n cael eu cyflawni."
Y dyddiad cau i gyflwyno sylwadau ar Gynllun Strategol allweddol y cyngor ar gyfer addysg Gymraeg yw dydd Gwener am 5pm.
Rhaid i'r cyngor gyflwyno'r Cynllun Strategol drafft i Lywodraeth Cymru erbyn 15 Rhagfyr i'w gymeradwyo.
Daw i rym ar 1 Ebrill 2012.