Diwedd cyfnod wrth i bmibaby hedfan am y tro olaf o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni hedfan yn teithio o Gaerdydd am y tro olaf.
Wedi bron i 10 mlynedd o ddefnyddio'r maes awyr fe fydd awyren olaf bmibaby yn hedfan oddi yno ddydd Sul.
Fe gyhoeddodd y cwmni ym mis Ebrill, dolen allanol ei fod yn rhoi'r gorau i hedfan o feysydd awyr Caerdydd a Manceinion ar ddiwedd tymor yr haf gyda'r sefyllfa economaidd yn cael y bai.
Daw hyn ddyddiau yn unig wedi i gwmni awyrennau o Sbaen gyhoeddi eu bwriadi ddechrau hedfan o Barcelona i Gaerdydd o fis Mawrth 2012 ymlaen.
Mae cwmni bmibaby wedi creu canolfan newydd yng ngogledd Iwerddon.
Maen nhw wedi symud eu hawyrennau i feysydd awyr Belfast, Birmingham ac East Midlands.
Roedd awyrennau bmibaby yn hedfan i 9 lleoliad o Gaerdydd.
Ar un cyfnod Caerdydd oedd ail ganolfan fwyaf y cwmni ym Mhrydain.
Cynaliadwy?
Roedd y maes awyr wedi dweud eu bod yn siomedig gyda'r penderfyniad, ond nad oedden nhw'n synnu gan fod gwasanaeth y cwmni wedi crebachu.
Yng nghyfnod 2006-7 roedd 34% o ddefnyddwyr y maes awyr yn defnyddio gwasanaethau bmibaby ond erbyn 2011 roedd y nifer wedi gostwng i 14%.
Ond mae'n bosib na fydd y maes awyr yn gynaliadwy yn y dyfodol yn ôl cyn bennaeth y safle, Keith Brooks.
Dywedodd bod pob miliwn o deithwyr yn cynhyrchu, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, 1,000 o swyddi yn yr economi lleol.
"Petai hwn yn ffatri yn cau a cholli 600, 700 neu 1,000 o swyddi fe fyddai tipyn mwy o sylw a chynnwrf.
"Dyna be sydd wedi bod yn digwydd yng Nghaerdydd, ond ar raddfa llawer arafach.
"Mae maes awyr yn farometr da iawn o weithgareddau economaidd a'r hyn mae'r byd yn ei feddwl ohonoch chi."
Mae penderfyniad bmibaby wedi bod yn ergyd i'r maes awyr ac i deithwyr yn ne Cymru er bod 'na obaith gyda chyhoeddiad Vueling ddydd Gwener.
Effaith negyddol
"Yn sicr mae'n mynd i gael effaith uniongyrchol ar deithwyr gan fod bmibaby yn gyfrifol am 30 o hediadau o'r maes awyr bob wythnos," meddai'r economegydd Roy Thomas.
"Fe fydd hefyd yn effeithio ar yr economi.
"Dyma'r unig faes awyr rhyngwladol yng Nghymru ac yn sicr mae'n ymddangos bod nifer y teithwyr yn gostwng o'i gymharu â llwyddiant Bryste dros y ffin.
"Fe fydd hyn yn cael effaith negyddol ar yr economi lleol."
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Alun Cairns, yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru am nad ydyn nhw wedi sicrhau digon o gefnogaeth i'r maes awyr.
"Dwi ddim yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon ers i strategaeth trafnidiaeth gael ei gyhoeddi'r llynedd.
"Cafodd maes awyr Caerdydd ychydig baragraffau o fewn y ddogfen ac roedd y paragraffau yn sôn yn bennaf am y cysylltiad gydag Ynys Môn yn hytrach nag am y cysylltiadau o Gaerdydd i wledydd tramor a chanolfannau busnes Ewrop sy'n holl bwysig i'n heconomi."
Dywedodd y Llywodraeth eu bod yn cydweithio yn agos gyda'r maes awyr ac yn cynnig cefnogaeth ar feysydd fel marchnata a hyrwyddo gan gadw golwg ar drafodaethau rhwng y maes awyr a chwmnïau eraill.
Mae nifer hefyd yn feirniadol o'r cysylltiad trafnidiaeth neu'r diffyg trafnidiaeth rhwng y brifddinas a'r maes awyr.
"Mae 'na ragor i'w wneud," meddai Arglwydd Faer Caerdydd, Delme Bowen.
"Does 'na ddim trenau yn mynd i'r maes awyr; mae angen gwell bysiau a gwell ffyrdd sy'n fwy uniongyrchol cyn gallu ehangu'r maes awyr yn rhyngwladol.
"Mae'n bwysig bod y maes awyr yn fwy uchelgeisiol ac yn marchnata ei achos yn well gan fod y ddinas yn ehangu.
"Rydym fel cyngor yn gwario £9 miliwn yn yr orsaf bysiau newydd gan fod y ddinas yn dal i dyfu ac felly does 'na ddim rheswm bod y maes awyr yn edwino," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011