Gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi datgelu "gweledigaeth newydd" ar gyfer y gwasanaeth iechyd, fydd yn dod â gofal yn "agosach at gartrefi pobl".
Ond mae Lesley Griffiths yn mynnu na fydd y cynlluniau yn arwain at gau unrhyw un o ysbytai rhanbarthol Cymru.
Ond ychwanegodd y byddai'n rhaid symud rhai gwasanaethau arbenigol o'r ysbytai hyn i ganolfannau eraill.
Dywedodd y byddai targedau'n cael eu gosod ar gyfer blaenoriaethau fel canser, gofal cardiaidd a gwasanaethau strôc o fewn y chwe mis nesa' ac y byddai'n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol gyhoeddi eu canlyniadau.
'Cam ymhellach'
Roedd Mrs Griffiths yn cydnabod fod nifer o'r ymrwymiadau yn barhad o bolisi iechyd Llafur ers blynyddoedd - yn canolbwyntio ar atal salwch, a chael llai o gleifion mewn ysbytai trwy ddarparu gofal yn y gymuned a chanolfannau rhagoriaeth i ddelio â chyflyrau cymhleth - ond fod y weledigaeth hon yn mynd â'r cyfan "gam ymhellach".
Mynnodd fod gwasanaethau iechyd yng Nghymru, gyda llai o fyrddau iechyd a rheiny'n rhai mwy, mewn sefyllfa well i gyflwyno gwelliannau nag yn y gorffennol.
Mae byrddau iechyd lleol yn y broses o gwblhau cynlluniau ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau. Bydd y cynlluniau'n cael eu hadolygu gan Fforwm Clinigol Cenedlaethol newydd - rhan o ymdrechion y gweinidog i atal ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd rhag troi'n arf gwleidyddol.
Ym mis Mai, dywedodd Comisiwn Bevan, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu mwy o alw gan boblogaeth sy'n heneiddio a gwelliannau mewn meddygaeth.
Aeth ymlaen i ddweud fod yr heriau yn cynyddu mewn cyfnod pan fo gwariant cyhoeddus ar drai, gan ychwanegu fod rhaid i'r cyhoedd fod yn rhan o "fyd cymhleth cynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau".
Newidiadau anodd
Roedd Mrs Griffiths wedi rhybuddio fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu newidiadau anodd, gan addo derbyn y feirniadaeth am benderfyniadau amhoblogaidd.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi galw am roi'r hawl i'r gwasanaeth ddefnyddio'r sector preifat i leihau rhestrau aros orthopedig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ddoeth i fyrddau iechyd ystyried pob dewis er mwyn cyrraedd targedau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
"Rwyf hefyd am gael addewid pendant gan y gweinidog ei hun na fydd ysbytai cyffredinol ardal yn cael eu hisraddio gan lywodraeth Lafur Cymru," ychwanegodd Mr Davies.
"Mae'n gwbl hanfodol fod y rhwydwaith yn cael ei amddiffyn a bod anghenion y claf yn flaenllaw."
'Problemau enfawr'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, fod poblogaeth Cymru sy'n heneiddio yn golygu y byddai pobl yn fwy dibynnol ar wasanaethau lleol.
"Os fydd ysbytai lleol yn cael eu hisraddio a gwasanaethau'n cael eu canoli, yna bydd rhaid i gleifion deithio ymhellach am ofal sylfaenol, a fydd yn cael effaith ar y rhai mwyaf bregus a'r henoed," meddai.
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams: "Gobeithio bydd y gweinidog o'r diwedd yn datgan cynllun y llywodraeth ar sut i ateb y problemau enfawr sy'n rhaid eu taclo gan ein gwasanaeth iechyd.
"Ni ddylai pobl Cymru orfod bodloni ar rywbeth sy'n eilradd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011