Un o bob tri oedolyn dros 65 o fewn 25 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Credir y bydd y nifer o bobl yng Nghymru dros 65 oed yn cyrraedd dros 860,000 erbyn 2035 yn ôl y rhagolygon diweddaraf.
Byddai cyfanswm y bobl dros 65 oed yn fwy na phoblogaeth bresennol Caerdydd, Abertawe a Wrecsam gyda'i gilydd.
Erbyn 2035 mae disgwyl i ganran y rhai dros 65 oed godi o un ym mhob pedwar i un ymhob tri.
Golyga hyn y bydd 450 o bobl dros 65 oed ar gyfer bob 1,000 o bobl oedran gwaith.
Mae hynny'n cymharu â 294 y llynedd.
Dywedodd Age Cymru fod angen polisïau sy'n ateb anghenion poblogaeth hŷn.
Ar hyn o bryd mae yna 558,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru.
Er bod nifer y genedigaethau yn fwy na nifer y marwolaethau, mae disgwyl i'r cynnydd fod o ganlyniad i fewnfudo.
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae disgwyl i nifer y rhai sy'n symud i Gymru fod tua 10,000 y flwyddyn, 7,000 yn dod o rannau eraill o'r DU.
Mae'r ystadegau, dolen allanol yn mynd i godi cwestiynau am y modd y bydd cymdeithas yn gallu talu am y gwasanaethau cyhoeddus sydd ei angen ar y boblogaeth wrth iddi fynd yn hŷn.
"Rydym i gyd yn byw yn hwy, yn byw yn iachach am fwy o amser ac mae angen dathlu hyn," meddai Iwan Rhys Roberts o Age Cymru.
"Mae'n wybodaeth gyffredinol bod y boblogaeth yn heneiddio a bod poblogaeth Cymru yn heneiddio yn gynt na gweddill y DU.
"Effaith hynny wrth gwrs yw bod angen polisïau i ateb y galw am boblogaeth hŷn - o ran iechyd a thrafnidiaeth i gymunedau sy'n cynnig gwasanaethau a chyfleusterau i bobl o bob oed allu byw eu bywydau yn llawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011