Galeri yn cau ei drysau
- Cyhoeddwyd
Mae galeri Glynn Vivian yn Abertawe wedi cau ei drysau am ddwy flynedd er mwyn caniatáu gwaith atgyweirio fydd yn costio £6 miliwn.
Bydd mynedfa newydd yn cael ei chodi, a bydd yna hefyd ystafell ddarllen a storfa er mwyn datblygu'r casgliad yn y dyfodol.
Cafodd Glynn Vivian ei adeiladu yn 1911.
Ar ôl y gwelliannau mae'r galeri yn gobeithio dyblu nifer yr ymwelwyr i 90,000 y flwyddyn.
Dywed Sybil Crouch, cyn cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ei fod yn ffyddiog am y dyfodol.
"Dwi ddim yn credu fod cynulleidfaoedd yn diflannu pan nad yw rhywbeth yno.
"Bydd pobl Abertawe yn gweld ei golled, ond hefyd yn ei groesawu 'nol ar ei newydd wedd.
Gwasanaeth dros dro
Bydd y prif waith adeiladu yn cychwyn yn y flwyddyn newydd.
Yn y cyfamser, bydd staff y galeri yn cynnal gweithdai o amgylch y ddinas, gan gynnwys llyfrgell y ddinas a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
"Bydd y cynllun ailddatblygu yma yn arwain at un o'r cyfleusterau gorau o'i fath yng Nghymru," meddai Graham Thomas, aelod o Gyngor Abertawe gyda chyfrifoldeb am ddiwylliant, adloniant a thwristiaeth.
Caiff y gwaith ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Abertawe.