'Taid wedi bygwth ei blant ei hun' cyn llofruddio ei ŵyr 2 oed

Ethan Ives-Griffiths, plentyn ifanc gyda gwallt brown a llygaid brown tywyll, yn hanner gwenu ar y camera. Mae'n edrych fel ei fod mewn crud ac yn gwisgo top glas.Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei lofruddio gan Michael a Kerry Ives

  • Cyhoeddwyd

Roedd dyn a laddodd ei ŵyr wedi bygwth lladd ei wyrion a'i blant ei hun cyn iddo lofruddio Ethan Ives-Griffiths, yn ôl teulu ar ochr tad y bachgen.

Cafwyd Michael Ives, 47, a'i wraig Kerry Ives, 46, yn euog o lofruddio eu hŵyr dwy oed, Ethan, yn eu cartref yn Garden City, Sir y Fflint, ym mis Awst 2021.

Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28, yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth ei mab, ac o greulondeb i blant.

Mae disgwyl i'r tri gael eu dedfrydu ddydd Gwener.

Yn ôl nain Ethan ar ochr ei dad, Kellie Shone, roedd rhybuddion o barodrwydd Michael Ives i fygwth a cham-drin ei deulu wedi bod yna ers tro.

"Dwi wedi gweld negeseuon, lle mae o wedi anfon neges at Shannon yn dweud ei fod o'n mynd i'w tharo hi a'i phlentyn – yr hynaf. 'Dwi'n mynd i dy daro di a dy fab'," meddai hi.

"Pan aeth hi'n feichiog gyda'r plentyn nesaf, roedd o'n mynd i gicio'r babi allan o'i stumog – geiriau a ddaeth allan o'i geg mae o wedi'u tecstio at ei ferch ei hun."

Bu Ethan yn byw gyda'i nain a'i daid am saith wythnos ar ôl i'w fam wahanu oddi wrth ei dad, Will Griffiths.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Ethan wedi dioddef o ddiffyg maeth difrifol, diffyg dŵr, ac roedd ganddo dros 40 o anafiadau ar ei gorff pan fu farw.

Anaf difrifol i'w ymennydd oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth, a hynny wedi ei achosi gan un, neu'r ddau, o'i nain a'i daid.

Mae aelodau o deulu Ethan ar ochr ei dad wedi dweud wrth BBC Cymru fod Michael Ives yn berson oedd yn cam-drin ac yn rheoli eraill, yn ogystal â phoeni y byddai'n colli pŵer dros ei ferch, Shannon pe bai hi mewn perthynas.

"Roedd bywyd yn eu tŷ, yn nhŷ'r Ives, fel cwlt. Byddai Michael yn dweud wrth bawb beth allen nhw a beth allen nhw ddim ei wneud," meddai Kellie.

Llun o Kellie Shone, mamgu Ethan ar ochr ei dad. Mae ganddi wallt llwyd, wedi'i dynnu'n ôl. Mae hi'n gwisgo blows gwyn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr Ethan pan oedd yn yr ysbyty yn parhau i dristáu Kellie'n fawr

Mae tad Ethan, Will Griffiths, yn cofio profi sut gymeriad oedd Michael Ives, pan ddechreuodd ei berthynas hefo Shannon yn 2016. Roedd ganddi fab eisoes o berthynas flaenorol.

"Yn fy nghyfarfod cyntaf gyda Shannon a'i mab, fe wnaeth Michael fygwth taro ni hefo'i gar," meddai.

"Felly o'r diwrnod hwnnw ymlaen, roeddwn i'n gwybod nad oedd o'n berson da, a dwi wedi cadw fy mhellter oddi wrtho ers hynny."

'Dim byd damweiniol' am ei anafiadau

Syrthiodd Ethan i'r llawr yn dilyn anaf difrifol i'w ymennydd ar 14 Awst, 2021.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, bu farw ar ôl diffodd ei beiriant cynnal bywyd.

Aeth Kellie Shone i'w weld yn yr ysbyty cyn iddo farw, ac roedd yn glir iddi ar unwaith nad oedd ei anafiadau'n ddamweiniol.

"Roedd ei gorff wedi ei orchuddio mewn cleisiau," meddai Kellie.

"Roedd gan y meddygon oleuadau o'i gwmpas ac roedd o'n gorwedd yno ar wely gyda thiwbiau a gwifrau'n dod allan ohono, gyda'i gewyn bach ymlaen – a oedd wedi'i lapio o'i gwmpas cymaint o weithiau, oherwydd yr holl bwysau yr oedd wedi'i golli.

"Roedd yn dorcalonnus ei weld, yn gorwedd yno'n gwbl llonydd.

"Dwi'n cofio meddwl, beth ar y ddaear – pwy ar y ddaear – sydd wedi gwneud hyn iddo, oherwydd does dim ffordd bod unrhyw ran o hynny'n ddamweiniol. Gwelais olion bysedd, marciau dwylo, yr holl gleisiau – ar fachgen bach."

Dyn â gwallt brown yn dal babi yn ei fraich chwith. Gyda'i law dde, mae'n bwydo'r plentyn â photel o laeth. Maen nhw'n eistedd mewn cadair gyda llen i'w gweld ar ochr chwith y ddau ohonyn nhw.Ffynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Ethan, Will Griffiths, yn dweud y bydd ei fab "yn ein calonnau o hyd"

O fewn oriau i farwolaeth Ethan, roedd ei dad Will yn amau ei fod yn gwybod pwy oedd ar fai.

Cofiodd Kellie: "Cyn gynted ag y daeth Will adref o'r ysbyty, trodd ata i a dweud 'Mae wedi lladd fy mab'. Yn syth dywedodd mai Michael oedd wedi lladd ei fab."

Yn ystod yr achos ym Mehefin a Gorffennaf 2025, disgrifiodd Shannon Ives ei rhieni fel rhai "erchyll" yn ystod ei phlentyndod.

"Roedden ni'n cael ein dyrnu, ein cicio a'n taro hefo belt," meddai.

Mae lluniau camerâu cylch cyfyng o dŷ'r Ives yn dangos y gamdriniaeth roedd Ethan yn dioddef, gan gynnwys un fideo o Ethan yn cael ei orfodi i gadw ei ddwylo ar ei ben.

Llun o Ethan yn cerdded tuag at y tŷ gyda'i freichiau ar ei ben. Mae ei dadcu a'i mamgu yn cerdded tu ôl iddoFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ethan yn cael ei orfodi i gadw ei ddwylo ar ei ben gan ei daid

Yn ôl y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones, prif ymchwilydd Heddlu Gogledd Cymru, roedd yn "nodwedd o gartref yr Ives" bod plant yn cael eu rhoi mewn "ystumiau anghyfforddus" neu stress position.

Dywedodd Kellie: "Roedd yn gwneud iddyn nhw sefyll yno am oriau. Dydw i ddim hyd yn oed yn nabod plentyn all sefyll gyda'u breichiau ar eu pen hirach na phum neu 10 munud."

Dywedodd tad Ethan, Will: "Mae'n boenus ac mae'n anodd ei wneud. Ac roedd rhaid i fy mab ei wneud am oriau."

Bu Ethan yn byw gyda'i naid a'i daid am saith wythnos cyn cael ei lofruddioFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ethan yn byw gyda'i naid a'i daid am saith wythnos cyn cael ei lofruddio

Am oddeutu 12 wythnos yn 2016 – tair blynedd cyn i Ethan gael ei eni – roedd Will, Shannon a'i hunig blentyn ar y pryd, yn byw gyda ffrind, Hannah Jones.

Helpodd Hannah symud Shannon a'i phlentyn allan o dŷ ei rhieni.

"Mae'n amlwg bod trais yn rhan o'r cartref hwnnw," meddai.

"Ar y diwrnod es i yno i'w helpu i symud allan, y funud y gwnaethon ni gamu drwy'r drws dechreuodd y dadlau ac yna'r bygythiadau: 'Os wyt ti'n gadael y tŷ hwn, dydych chi ddim yn dod yn ôl."

Dywedodd Hannah y byddai Shannon Ives "yn dweud wrtha i ei bod hi wedi cael ei cham-drin fel plentyn a'i bod hi'n ofni ei thad".

"Roedd hefyd ganddi farciau ar ei chorff a dywedodd wrtha i 'dyna'r math o berson oedd fy nhad'.

"Dyna wnaeth annog fi i'w helpu i adael cartref y teulu a'i symud hi i loches i ddechrau eto, bywyd newydd i ffwrdd o'i rhieni."

Llun o Hannah Jones. Mae hi'n gwenu ar y camera ac mae ganddi wallt hir melyn, sydd wedi'i liwio'n borffor ar y pennau.
Disgrifiad o’r llun,

Ceisiodd Hannah Jones helpu Shannon i symud allan o dŷ ei rhieni

Mae'r ffaith bod Shannon Ives wedi wynebu trais yn ei phlentyndod yn gwneud i rai gwestiynu pam ei bod hi wedi dychwelyd i fyw gyda'i rhieni, gan fynd â'i phlant gyda hi.

Dywedodd modryb Ethan, Lillie Shone: "Ni chafodd hi blentyndod gwych, mae hynny'n deg dweud.

"Ond os oeddech chi'n gwybod bod eich rhieni wedi eich trin chi fel 'na… pam fyddech chi'n mynd â'ch plant eich hun yn ôl yno a gadael iddyn nhw gael eu trin fel 'na?"

Daeth rhagor o dystiolaeth bod trais yn digwydd yng nghartref yr Ives i'r amlwg mewn negeseuon testun a ddarllenwyd i'r llys, lle cafodd Michael a Kerry Ives eu galw'n "gurwyr plant" gan eu mab.

Mewn un neges, dywedodd Kerry Ives wrth ei mab, sy'n oedolyn: "Dwi ddim yn gwybod pam ti'n dal i ddweud bod o'n dad drwg, achos dydy o ddim."

Atebodd y mab: "Mae o angen help am y ffordd y mae wedi trin pob un ohonom ni [ei blant]…"

Lluniau'r heddlu o Kerry, Shannon a Michael Ives. Mae'r tri yn edrych at y camera. Mae gan Kerrie a Shannon gwallt coch ac mae gan Michael gwallt llwyd a barf.Ffynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Kerry Ives (chwith), Shannon Ives (canol) a Michael Ives (dde) yn euog yn dilyn achos pum wythnos o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug

Fe fydd Michael, Kerry a Shannon Ives yn cael eu dedfrydu'n ddiweddarach.

Ond dywedodd Lillie Shone nad oedd unrhyw ddedfryd yn ddigon hir: "Dylen nhw ddod â'r gosb eithaf yn ôl ar gyfer achosion fel hyn."

Dywedodd Kellie Shone mai ei theimladau tuag at y tri diffynnydd oedd "dicter, casineb, a phoen".

Ychwanegodd: "Mae cymaint o gwestiynau dwi eisiau gofyn iddyn nhw, gan ddechrau gyda pham? Pam Ethan, pam fo? Yr un a wenodd fwyaf – pam fo?"

Gwyliwch Murdered by his Grandparents ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig