Gweinidog Iechyd yn amddiffyn ei chynlluniau
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi amddiffyn ei chynlluniau i ddiwygio'r gwasanaeth iechyd ac wedi mynnu na fydd unrhyw ysbytai cyffredinol yn cael eu hisraddio.
Bydd y polisi newydd, a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths ddydd Mawrth, yn arwain at ganoli rhai gwasanaethau a thrin rhagor o gleifion yn eu cartrefi.
"Sicrhau canlyniadau gwell yw'r nod, nid israddio o gwbl," meddai.
Ond, yn ôl Plaid Cymru, "ychydig iawn o ymrwymiad" sydd 'na i ysbytai rhanbarthol.
Fe amlinellodd y gweinidog "weledigaeth" Llafur ar gyfer sialensiau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesa' mewn datganiad yn y Cynulliad ddydd Mawrth.
Roedd y polisi'n nodi y byddai targedau newydd yn cael eu gosod ar gyfer canser, clefyd y galon a strôc o fewn chwe mis.
'Dim israddio'
Mae gan Lywodraeth Cymru nod tymor hir i drin rhagor o bobl yn eu cartrefi yn hytrach na mewn ysbytai.
Mynnodd Mrs Griffiths na fydd unrhyw ysbyty cyffredinol rhanbarthol yn cau.
"Fydd yna'r un yn cael ei israddio," meddai wrth BBC Cymru. "Dwi ddim eisiau clywed unrhyw beth am israddio. Rydyn n i eisiau gweld gwasanaethau gwell ar draws Cymru."
"Os am dynnu gwasanaethau allan o ysbytai cyffredinol rhanbarthol a'u symud i'r cymunedau neu fannau eraill, mae'n rhaid iddynt fod yn well gwasanaethau ac mae'n rhaid cael tystiolaeth glinigol dda," ychwanegodd.
Dywedodd Mrs Griffiths y gallai cleifion "orfod teithio ychydig ymhellach ar ddiwedd y dydd" os am gael gwell canlyniad.
Ychwanegodd bod disgwyl rhagor o fanylion am y cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn.
"Dwi ddim wedi gweld unrhyw un o'r cynlluniau eto. Bydda' i'n cael golwg arnyn nhw'n ddiweddarach y mis yma a than hynny dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd," meddai.
Mae Llafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o "godi bwganod" am eu polisi iechyd ond dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, ei bod yn ofni y byddai gwasanaethau'n cael eu "hisraddio'n sylweddol", gan gynnwys gofal llawfeddygol a gwasanaethau mamolaeth ymgynghorol.
'Yr un hen stori'
"Rydyn ni'n derbyn y bydd angen newid. Mae'r gwasanaeth iechyd yn newid drwy'r amser," meddai Ms Jones.
"Fy mhrif bryder yng nghyd-destun y datganiad (ddydd Mawrth) yw mai ychydig iawn o ymrwymiad sydd 'na i'r rhwydwaith o ysbytai cyffredinol rhanbarthol sydd 'na yng Nghymru, sy'n darparu'r gwasanaethau sylfaenol rheolaidd," ychwanegodd.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, mae'r "un hen stori" oedd y datganiad ddydd Mawrth, yn dilyn tri chynllun strategol ar gyfer y gwasanaeth iechyd ers datganoli.
Beirniadodd RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, y llywodraeth am gymryd cyhyd i gyflwyno'r cynlluniau ar ôl etholiad mis Mai, gydag iechyd yn cymryd 40% o'r gyllideb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011