Dadorchuddio cofeb rhyfel
- Cyhoeddwyd
Mae dwy wal goffa wedi cael eu dadorchuddio ym Mhontypridd ddydd Gwener er cof am y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd ers 1914.
Ar y ddwy wal ym Mharc Ynysangharad mae cyfanswm o 1,319 o enwau.
Dywedodd llefarydd fod yr enwau wedi eu casglu drwy ddefnyddio cofnodion swyddogol a gwybodaeth leol.
Bu farw 821 yn y Rhyfel Byd cyntaf a 491 yn yr Ail Ryfel Byd.
'Emosiynol'
Bu farw pedwar yn ystod Rhyfel y Falklands, ac un yr un yn y gwrthdaro neu ryfel ym Mhalestina, Korea a Suez.
Cyn y dadorchuddio dywedodd y Cynghorydd Sylvia Jones, Maer Rhondda Cynon Taf: "Bydd y seremoni yn un emosiynol wrth i ni roi teyrnged i'r rhai dewr fu farw mewn dau ryfel byd a rhyfeloedd eraill."
Mae'r cyngor sir wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Tre Pontypridd a'r Lleng Brydeinig wrth lunio'r rhestr enwau a hefyd wrth gasglu arian ar gyfer y cofebion.
"Mae'n bwysig nad yw'r rhai wnaeth aberthu cymaint yn cael eu hanghofio a bydd y gofeb yn helpu atgyfnerthu statws Parc Ynysangharad," meddai'r cynghorydd.