Gerallt Lloyd Owen yn gadael Talwrn y Beirdd

  • Cyhoeddwyd
Gerallt Lloyd OwenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gerallt Lloyd Owen sydd wedi bod yn llais Y Talwrn am dros 30 mlynedd

Wedi dros 30 mlynedd fe fydd cyfnod Gerallt Lloyd Owen ar Dalwrn y Beirdd yn dod i ben.

Mae'r prifardd wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres nesaf ar BBC Radio Cymru.

Fo sydd wedi bod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd am 32 mlynedd.

"Dwi wedi gwneud 32 o flynyddoedd fel Meuryn ac efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rywun arall," meddai.

"Wedi'r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes.

"Mae wedi bod yn gyfnod rhyfeddol o hapus a dwi wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau ledled Cymru dros y blynyddoedd."

'Elwa'

Dywedodd Siân Gwynedd, Golygydd Radio Cymru a Theledu Cymraeg y BBC, mai Gerallt Lloyd Owen fu llais Y Talwrn ar BBC Radio Cymru ers y cychwyn cyntaf.

"Mae'n sicr yn ddiwedd cyfnod wrth iddo ollwng yr awenau.

"Mae gwrandawyr yr orsaf a'r beirdd niferus y bu'n Feuryn arnynt ar hyd y blynyddoedd wedi elwa o'i sylwadau treiddgar, ei gof toreithiog a'i hiwmor parod.

"Mae'n wir dweud ei fod ef a'r Talwrn wedi sicrhau bod barddoniaeth yn parhau i fod yn gyfoes a difyr ymysg Cymry Cymraeg.

"Hoffwn i ar ran BBC Radio Cymru ddiolch i Gerallt am y cyfraniad aruthrol a wnaeth ar hyd yr holl flynyddoedd a dwi'n siŵr bod y gwrandawyr hefyd yn ymuno a mi wrth ddiolch a dymuno'r gorau iddo."

Hefyd gan y BBC