Diddymu rheol Erthygl 4 Gwynedd yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys

Gwesty Ty Coch ym MhorthdinllaenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nawr am "gychwyn proses apêl ysgrifenedig"

  • Cyhoeddwyd

Mae mesurau dadleuol a gafodd eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau wedi cael eu diddymu.

Ym Medi 2024, Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai" yn y sir.

Fe wnaeth ymgyrchwyr lansio apêl yn erbyn cyflwyno Erthygl 4 - gan ddadlau byddan nhw'n dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.

Ym mis Medi fe ddaeth barnwr i'r casgliad nad oedd cynghorwyr Gwynedd wedi derbyn y wybodaeth gywir cyn gwneud y penderfyniad.

Roedd y mesurau Erthygl 4 yn parhau mewn grym wrth i Gyngor Gwynedd apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Iau, fe gadarnhaodd y barnwr y gorchymyn diddymu - sy'n golygu bod y mesurau yn cael eu dileu ar unwaith.

Dywedodd y cyngor mewn datganiad eu bod yn "bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl ysgrifenedig i amddiffyn ein penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd".

'Rydyn ni wedi ennill'

Cafodd yr her gyfreithiol yn erbyn Cyfarwyddyd Erthygl 4 ei lansio gan y grŵp 'Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4'.

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Laura Alliss - wnaeth helpu i godi arian ar gyfer yr her gyfreithiol ei bod "wrth ei bodd" gyda'r penderfyniad.

"Rydyn ni'n teimlo mai cyfiawnder yw hyn, ac mae'r cyngor wedi cael ei ddwyn i gyfrif am y modd ofnadwy y cafodd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ei gymeradwyo gan y cabinet."

Dywedodd fod gan y cyngor dair wythnos nawr i ofyn am ganiatâd gan y Llys Apêl i apelio'r dyfarniad diddymu.

"Ry'n ni'n gobeithio y byddan nhw (y cyngor) yn cymryd eu hamser i fyfyrio ac yn penderfynu peidio gwastraffu mwy o amser ac arian cyhoeddus wrth apelio.

"Ar hyn o bryd mae Erthygl 4 wedi mynd ac rydyn ni wedi ennill."

Arwydd aberdaron

Yn Hydref 2022 fe gafodd awdurdodau lleol ar draws Cymru ragor o rymoedd gan Lywodraeth Cymru i reoli niferoedd ail gartrefi.

Roedd Gwynedd - y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd yma - wedi derbyn 3,902 ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddenu ymateb cymysg.

Mewn ardaloedd fel Aberdaron ym mhen draw Llŷn mae 30% o dai yn gartrefi gwyliau, ac fe bleidleisiodd y cyngor o blaid cyflwyno'r mesurau newydd ym mis Gorffennaf 2024.

Er bod perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd eisoes yn talu premiwm o 150% ar ben eu treth cyngor, fe ddisgrifiwyd Erthygl 4 fel "arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau".

Ond yn wrthwynebus i'r cynlluniau, penderfynodd 'Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4' lansio'r her gyfreithiol, gan honni y byddai'r mesurau yn dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.

Er iddyn nhw golli eu cais gwreiddiol am adolygiad barnwrol, ar apêl fe roddwyd caniatâd iddyn nhw barhau ar y sail bod Cabinet Cyngor Gwynedd naill ai wedi eu camarwain neu wedi camddeall pan aethon nhw ati i newid rheolau cynllunio.

Yn sgil gwrandawiad Uchel Lys yng Nghaerdydd, daeth cadarnhad ym mis Medi bod eu hymgais i rwystro'r mesur wedi llwyddo.

Yn ôl dyfarniad y barnwr, Mr Ustus Eyre, ym mis Medi roedd adroddiad swyddogion Gwynedd a'r dogfennau cysylltiedig yn cyflwyno'r polisi i'r cabinet wedi "camarwain aelodau yn sylweddol".

Ychwanegodd nad oedd Erthygl 4 yn "fesur cyffredinol ar gyfer pob cartref gwyliau newydd, dim ond ar gyfer y rhai lle mae newid defnydd yn 'berthnasol', neu'n arwyddocaol".

Roedd marciau cwestiwn felly, os oedd y cabinet yn ymwybodol o hyn pan gafodd y penderfyniad ei wneud.

'Hynod siomedig gyda'r penderfyniad'

Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd Cyngor Gwynedd fod Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi'i ddiddymu ar unwaith "ac felly nid yw bellach yn weithredol ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd"

Ychwanegodd llefarydd: "Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau.

"Dyna pam yr ydym wedi cymryd cyfres o gamau rhagweithiol – gan gynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 – i reoli'r nifer sylweddol o gartrefi sy'n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu'n lety gwyliau tymor-byr.

"Dangosodd ymchwil cyn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65% o aelwydydd Gwynedd wedi'u prisio allan o'r farchnad dai, gyda'r broblem yn hyd yn oed fwy difrifol mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o dai gwyliau.

"Rydym yn hynod siomedig gyda phenderfyniad y Barnwr i wrthod ein cais ar lafar am yr hawl i apelio ei ddyfarniad. Byddwn felly'n bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl ysgrifenedig i amddiffyn ein penderfyniad fel Cyngor i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig