Tlodi: Rhybudd gan elusen
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru fethu ei darged i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020.
Yn ôl elusen Achub y Plant mae un plentyn ym mhob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru, ac mae'r nifer yn cynyddu.
Dywed yr elusen fod y sefyllfa yn "gywilyddus" ac yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gadw at eu gair.
Ond yn ôl Gwenda Thomas, y dirprwy weinidog sydd â chyfrifoldeb am blant a gwasanaethau cymdeithasol, mae'r llywodraeth eisoes wedi cyflwyno mesurau llwyddiannus.
Mae hi o'r farn fod yna well cydweithio rhwng y gwahanol asiantaethau a bod hyn wedi dwyn ffrwyth.
Dywedodd er nad yw pethau fel trethi a lwfansau wedi eu datganoli roedd yna fodd i wella'r sefyllfa.
Mae hi'n bwriadu cyflwyno deddf gwasanaethau cymdeithasol fydd, meddai, yn helpu mynd i'r afael â'r broblem.