Cymdeithas Bêl-droed yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn gwisgo crys cefnogwyr Team GB ar gyfer Llundain 2012

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) wedi dweud na fu ymgynghori gyda nhw cyn defnyddio chwaraewyr o Gymru i hybu tîm Prydain.

Mae dau chwaraewr, Gareth Bale a'r capten Aaron Ramsey, wedi cael tynnu eu llun yn gwisgo crys cefnogwyr Team GB.

Mae is-lywydd CBC, Trefor Lloyd Hughes, yn gwrthwynebu chwaraewyr o Gymru yn bod yn rhan o'r tîm yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

"Yn bersonol, rwy'n siomedig gyda'r Gymdeithas Olympau Prydeinig (BOA)," meddai.

Dydyn nhw heb gysylltu gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru o gwbl. Rwy'n meddwl fod hynny'n siomedig.

"Mae'n egwyddor ar ddiwedd y dydd a dyna sy'n bwysig.

"Mae'r Gymdeithas wedi gwneud datganiad rai misoedd yn ol, a dydan ni heb newid ein safiad ers y datganiad. Mae hi mor syml a hynny."

Mae CBC ynghyd a Chymdeithasau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn poeni y byddai cystadlu fel tîm Prydain yn bygwth eu hannibyniaeth fel cenhedloedd pêl-droed ar wahan.

Ond mae Ramsey a Bale wedi mynegi dyhead i gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.

Mae ymosodwr Cymru, Craig Bellamy, hefyd wedi dweud y byddai'n cefnogi chwaraewyr sydd am gynrychioli Prydain.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey yw capten Cymru

Mae lluniau o Ramsey a Bale yn gwisgo'r crys wedi achosi dychryn ymhlith rhai o gefnogwyr Cymru.

Ond mae cwmni Adidas, sy'n cynhyrchu crysau Team GB, wedi amddiffyn y defnydd o'r ddau Gymro i fodelu'r crys.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn ddim ond dau chwaraewr o bortffolio Adidas sydd wedi cael tynnu eu llun yn y crys cefnogwyr newydd.

"Fel mae'r Gymdeithas Olympau Prydeinig wedi datgan, mae chwaraewyr y pedair gwlad yn gymwys i gael eu hystyried a'u dewis.

"Mae hi ond yn naturiol felly i chwaraewyr Adidas fel Bale a Ramsey gael eu defnyddio mewn ymgyrch i lansio'r cynnyrch yma i gefnogwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol