Llundain 2012: Gareth Bale yn gwisgo crys Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Bale yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei weld yn gwisgo'r crysFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bale yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei weld yn gwisgo'r crys

Mae llun o'r pêl-droediwr Gareth Bale yn corddi'r dyfroedd wrth i'r ffraeo barhau ynglŷn â phwy ddylai chwarae i dîm Olympaidd Prydain.

Bale yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei weld yn gwisgo'r crys.

Mae Bale wedi dweud ei fod yn dymuno cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesa'.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â chymdeithasau Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn y bwriad i greu tîm Prydeinig.

Hwn fydd y tro cyntaf i dîm pêl-droed o Brydain gystadlu ers Gemau Olympaidd Rhufain yn 1960.

'Dewis naturiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Olympaidd Prydain fod Bale yn "ddewis naturiol" i fodelu'r crys.

Yn ôl llefarydd ar ran Gareth Bale, mae ef yn "Gymro 100%, ond hefyd yn Brydeiniwr".

Mae disgwyl i gemau pêl-droed Gemau Olympaidd 2012 gael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac yn Hampden Park, Glasgow.

Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen, hefyd wedi dweud ei fod yn dymuno cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd felly hefyd capten Cymru Aaron Ramsey.

Pryder Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yw y bydd dewis eu chwaraewyr yn tanseilio eu statws annibynnol ar y lefel ryngwladol - er gwaetha' sicrwydd FIFA.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Jonathan Ford: "Dydyn ni ddim o blaid tîm Prydeinig ond byddwn ni ddim yn rhwystro chwaraewyr Cymru rhag bod yn y tîm".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol