Aaron Ramsey yn dilyn Gareth Bale a gwisgo crys Prydain

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey © AdidasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Aaron Ramsey yn gweld problem gyda bod yn rhan o dîm Prydain

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi dilyn ôl troed Gareth Bale a chael tynnu ei lun yn gwisgo crys cefnogwyr tîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Bydd hyn yn sicr o ddwysau'r ddadl, gan fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwrthwynebu i'w chwaraewyr fod yn rhan o dîm o'r fath.

Mae'r Gymdeithas, ynghyd â Chymdeithasau'r Alban a Gogledd Iwerddon, yn poeni y bydd creu tîm i gynrychioli Prydain yn bygwth annibyniaeth y gwledydd cartref yn y dyfodol.

Roedd Bale eisoes wedi mynegi ei ddyhead i fod yn rhan o'r tîm, a does gan y Gymdeithas Bêl-droed ddim hawl cyfreithiol i'w atal rhag gwneud hynny.

Nawr mae Ramsey wedi ategu sylwadau Bale mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Four Four Two.

'Dim problem'

Yn y cyfweliad, dywedodd Ramsey: "Os oes cyfle i ni chwarae, pam lai?

"Rydych chi'n cynrychioli Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Dyw'r cyfle i ennill medal aur ddim yn digwydd yn aml iawn.

"Dylai chwaraewyr, os daw'r cyfle, fwrw 'mlaen a chwarae - dwi ddim yn gweld problem.

"Rwyf wedi siarad gyda Gareth Bale ac mae e'n benderfynol. Rwy'n meddwl bod y Cymry'n iawn gyda hynny - mae hi fyny i'r chwaraewyr."

Ond mae cadeirydd Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, Vince Alm, wedi dweud fod Bale 'wedi cael cyngor gwael', gan ychwanegu fod mwyafrif y cefnogwyr yn erbyn y syniad.

Dywedodd y gallai arwain at ddiwedd y gwledydd cartref ac y byddai hynny'n drist.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol