Gary Speed yn cyhoeddi ei garfan i wynebu Norwy

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd James Collins 39 o gapiau i Gymru ers ei gêm gyntaf yn erbyn Norwy yn 2004

Mae Gary Speed wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 12.

Tri fydd yn dychwelyd i'r garfan yn dilyn anafiadau - yr amddiffynwyr Danny Collins a James Collins, a chwaraewr canol cae Celtic, Joe Ledley.

Does neb amlwg ar goll o'r garfan o 24.

Er bod dau ddiwrnod o'r wythnos honno wedi eu dynodi'n ddyddiadau gemau rhyngwladol, dim ond ar y dydd Sadwrn y bydd tîm cyntaf Cymru yn chwarae.

Ond mae gan y tîm dan-21 gem ragbrofol bwysig yn erbyn Armenia ar nos Fawrth, Tachwedd 15.

Mae nifer o'r brif garfan hefyd yn gymwys i chwarae yn y gêm honno.

Carfan Cymru (v. Norwy; Stadiwm Dinas Caerdydd; Dydd Sadwrn, Tachwedd 12 am 3:00pm)

Golwyr :- Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Bromwich Albion - ar fenthyg yn Birmingham City);

Amddiffynwyr :- Darcy Blake (Caerdydd), Danny Collins (Stoke City - ar fenthyg yn Ipswich Town), James Collins (Aston Villa), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Neil Taylor ac Ashley Williams (Abertawe);

Canol Cae :- Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich City), David Edwards (Wolves), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Hal Robson-Kanu (Reading), David Vaughan (Sunderland);

Ymosodwyr :- Craig Bellamy (Lerpwl), Simon Church (Reading), Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich City), Sam Vokes (Wolves).

Wrth gefn :- Lewis Price (Crystal Palace), Neal Eardley (Blackpool), Craig Morgan (Preston North End), Lewin Nyatanga (Bristol City), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Abertawe), Andy Dorman (Crystal Palace), Brian Stock (Doncaster Rovers), Jonathan Williams a Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United).