Gary Speed: 'Mae angen Collins ar Gymru'

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd James Collins 39 o gapiau i Gymru ers ei gêm gyntaf yn erbyn Norwy yn 2004

Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, wedi mynnu fod gan James Collins ddyfodol mawr gyda Chymru er iddo dynnu nôl o'r garfan am y gemau yn erbyn y Swistir a Bwlgaria ym mhencampwriaeth rhagbrofol Ewro 2012.

Tynnodd Collins allan o'r garfan oherwydd anaf i'w ben-glin er iddo chwarae 90 munud llawn i'w glwb Aston Villa ddydd Sadwrn diwethaf.

Doedd dim disgwyl i Collins ddechrau'r gêm yn erbyn Y Swistir nos Wener yn Stadwm Liberty gan fod disgwyl i Ashley Williams a Darcy Blake gadw'u lle.

Ond dywedodd Speed fod "James yn rhan bwysig o'r dyfodol i ni".

Roedd Collins, 28 oed, wedi ei wahardd ar gyfer y gêm flaenorol yn erbyn Montenegro ac fe aeth Blake yn bartner i Williams yng nghanol yr amddiffyn.

Cadwodd Blake ei le ar gyfer yr ornest yn erbyn Lloegr yn Wembley er bod Collins ar gael.

Sibrydion

Pan dynnodd Collins yn ôl o garfan Speed ddydd Llun dau ddiwrnod ar ôl chwarae gêm lawn i Villa, fe ddechreuodd y sibrydion fod Collins yn ailystyried ei yrfa ryngwladol.

Ond dywedodd Speed: "Fe siaradais i gyda James - fe gafodd bigiad yn ei droed cyn y gêm ddydd Sadwrn ac efallai na ddylai fod wedi chwarae, ond gan mai James ydi e, fe wnaeth.

"Fe gafodd drafferthion, ac mae wedi gorfod gadael i hynny setlo.

"Mae Darcy wedi gwneud yn dda i ni, ac roedd James yn siomedig nad oedd yn dechrau'r gêm yn erbyn Lloegr, a dwi'n falch ei fod e'n siomedig.

"Fe fyddwn i wedi bod hefyd yn yr un sefyllfa, ac mae James yn deall hynny ac yn iawn hefo'r peth.

"Roedd rhaid i mi chwarae Darcy wedi'r ffordd y gwnaeth e chwarae yn erbyn Montenegro ac Awstralia.

"Ond mae James yn gwneud yn dda i'r clwb ar y lefel uchaf, felly mae ei angen ac mae e'n rhan bwysig o'n dyfodol ni."

Mae Collins wedi bod yn gapten ar Gymru ddwywaith - yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Liechtenstein ym mis Hydref 2009 a'r golled o 1-0 yn erbyn Sweden ym mis Mawrth 2010.

Mae'n un o'r tri chwaraewr mwyaf profiadol yng ngharfan Gary Speed.

Dim ond Craig Bellamy a Joe Ledley sydd wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol.