Cartrefi gofal: 'Diffyg cyllid'
- Cyhoeddwyd
Mae'r drefn o ofalu am bobl fregus wedi dioddef o "ddiffyg cyllid" ers blynyddoedd yn ôl y Fforwm, sy'n cynrychioli dros 500 o ddarparwyr gofal annibynnol.
Ond dywed Fforwm Gofal Cymru y bydd agweddau rhai cynghorau yn newid oherwydd y posibilrwydd o orfod wynebu adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys.
Yn ddiweddar pleidleisiodd cynghorwyr Conwy i gynyddu taliadau i gartrefi preswyl a chartrefi nyrsio preifat.
Adolygiad Barnwrol
Maen nhw'n codi taliadau o £346 i £448 yr wythnos am bob preswylydd hŷn mewn cartrefi gofal preifat - cynnydd o 29.5%.
Bydd taliadau i gartrefi am breswylwyr oedrannus a bregus eu meddwl (EMI) yn codi 8.1% o £442 i £478.
Bydd costau cartrefi nyrsio hefyd yn codi o £561 i £598, a chleifion cartrefi nyrsio EMI o £603 i £637.
Roedd eu penderfyniad yn dilyn Adolygiad Barnwrol a orfododd Cyngor Sir Benfro i newid taliadau i gartrefi gofal am breswylwyr oedrannus a bregus.
Bellach mae dau Adolygiad Barnwrol arall ar fin cael eu cynnal yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.
Bydd achos arall yn ymwneud a chartrefi gofal Sir Benfro yn cael ei glywed ar Dachwedd 15 a 16.
A bydd gwrandawiad tri diwrnod yn ymwneud â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn cychwyn ar Dachwedd 21.
Dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: "Bu'r ychydig flynyddoedd diwethaf yn anodd i bawb o safbwynt economaidd ac mae hynny wedi golygu heriau aruthrol i'r sector gofal cymdeithasol wrth i ni ddioddef o ddiffyg cyllid cronig o un flwyddyn i'r llall.
'cyfrifoldebau cyfreithiol'
"Ar yr un pryd rydym yn wynebu costau cyffredinol uwch, costau rheoleiddio uwch, chwyddiant a chynnydd sylweddol mewn dibyniaeth - felly mewn ffordd mae'n debyg i'r storm berffaith.
"Nid yw comisiynwyr na rheoleiddwyr yn ystyried y gost o ddarparu ansawdd o gwbl.
"Cost yw'r sbardun ers blynyddoedd lawer, nid ansawdd.
"Nid yw amryw o awdurdodau lleol wedi bod yn talu sylw dyledus i ganllawiau Llywodraeth Cymru nac yn ufuddhau i'w cyfrifoldebau cyfreithiol, gwaetha'r modd.
"Y gwir amdani yw nad yw ffioedd cartrefi gofal na ffioedd gofal cartref yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol, nac erioed wedi bod chwaith - er bod gofalu am bobl fregus yn gyfrifoldeb statudol.
"Yn aml iawn, mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru yn cael eu hanwybyddu.
"Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud fod y darparwr yn Sir Benfro oedd â digon o asgwrn cefn i herio grym yr awdurdod lleol wedi newid y tirlun.
"Mae yna naratif gwahanol yn awr ac rydym yn dechrau gweld awdurdodau lleol yn edrych dros eu hysgwyddau ac yn gwneud yr hyn allant i osgoi Adolygiad Barnwrol.
"Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r cysyniad o Femorandwm o Ddealltwriaeth er mwyn cael pobl i weithio ar y cyd.
"Rydym wedi gweld manteision hynny yng Nghonwy lle maen nhw wedi bod yn gweithio ar y cyd ers peth amser.
"Mae'r cynnydd yng Nghonwy yn dal yn bell iawn o'r ffigyrau y byddai'r pecyn cymorth y cytunodd y sector gofal a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arno rai blynyddol yn ôl yn ei roi i chi, ond mae'n gam i'r cyfeiriad iawn.
"Os na fydd awdurdodau lleol eraill yn talu sylw bydd yna fwy fyth o adolygiadau barnwrol oherwydd does gan ddarparwyr, sydd dan bwysau aruthrol, unman arall i droi. Maen nhw dan bwysau o bob cyfeiriad.
"Mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru am i'r sector annibynnol ddarparu gwasanaethau, ond arian cyhoeddus sy'n talu amdanynt, i raddau helaeth.
"Maen nhw am weld ethos gwasanaethau cyhoeddus ac mae Fforwm Gofal Cymru yn gefnogol i hynny.
"Mae Llywodraeth Cymru'n paratoi Bil Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a fydd yn darparu ateb Cymreig i holl ddimensiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
"Os bydd pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd mae hwn yn gyfle gwych i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru i'r bobl sy'n derbyn y gofal rydym yn ei ddarparu. Rhaid iddyn nhw fod wrth wraidd popeth a wnawn."
Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cymru, "Er ein bod yn croesawu'r gydnabyddiaeth o'r gwaith mae'r Dirprwy Gweinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas yn gwneud i hyrwyddo cydweithio ar draws y sector gofal cymdeithasol, ni allwn, yn gyfreithiol, ymyrryd yn nhrefniadau cytundebol mae cynghorau yn gwneud gyda darparwyr gofal.
"Rydym wedi rhoi cyfarwyddyd statudol ar gomisiynu gwasanaethau cymdeithasol ac rydym yn disgwyl i gynghorau cydymffurfio gyda rhain.
"Bydd adnoddau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i gael eu diogelu ac rydym wedi gwneud adnoddau ychwanegol o £35m ar gael ar gyfer holl gyfnod cyllid Llywodraeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011