Aaron Ramsey yn ceisio tawelu meddyliau

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey © AdidasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Aaron Ramsey yn gweld problem gyda bod yn rhan o dîm Prydain

Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi ceisio tawelu meddyliau cefnogwyr na fydd e'n chwarae i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd pe bai'n bygwth dyfodol Cymru fel gwlad pêl-droed annibynnol.

Mae lluniau o Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn gwisgo crysau cefnogi tîm Prydain wedi codi gwrychyn rhai o ddilynwyr pêl-droed Cymru.

Dydd Gwener gwnaeth Ramsey sylw trydar gan ddweud: "Ymlaciwch, fyddwn i byth yn chwarae yn y tîm Olympaidd pe bai'n effeithio ar hunaniaeth Cymru fel gwlad unigol."

Yn gynharach roedd Ramsey, 20 oed, wedi dweud: "Os ydyn ni'n cael y cyfle i chwarae, pam lai?"

Uchelgais

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) am i'w chwaraewyr chwarae yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Ond mae cyn-gaptên Cymru, Craig Bellamy, wedi cefnogi uchelgais Ramsey a Bale i chwarae yn y Gemau Olympaidd.

Mae Ramsey a Bale wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, Tachwedd 12.

Mae CBC ynghyd â Chymdeithasau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn poeni y byddai cystadlu fel tîm Prydain yn bygwth eu hannibyniaeth fel cenhedloedd pêl-droed ar wahân.

Dim ond FA Lloegr sydd yn hapus i'r chwaraewyr gynrychioli'r tîm Prydain.

Bydd 'Prydain' yn cystadlu yng nghystadleuaeth bêl-droed y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers 1960 o dan oruchwyliaeth rheolwr tîm dan 21 Lloegr, Stuart Pearce.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol