AC: 'Angen monitro gwariant amgylchedd'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad wedi galw am fwy o atebolrwydd am y miliynau o bunnau sy'n cael eu rhoi i grwpiau amgylcheddol gan lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Mae AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llŷr Huws Gruffudd - sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad - yn dweud fod angen mwy o graffu ar wariant y grwpiau.
Mae'r grwpiau dan sylw wedi derbyn bron £20 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf.
Dywedodd Mr Huws Gruffudd: "Pan ydych chi'n rhoi'r symiau yma at ei gilydd mae'n swm anhygoel o arian.
Cwestiynau
"Asgwrn y gynnen i mi yw hyn - gan fod yr arian yma'n cael ei dalu fesul dipyn mae yna gwestiynau i'w gofyn, yn fy marn i, am atebolrwydd a chraffu.
"Pwy sy'n cadw golwg dros y gwariant ar y cyfan, a pwy sy'n sicrhau bod y cyfan gyda'i gilydd yn cyfrannu cystal ag y dylai tuag at agenda'r llywodraeth?"
Ychwanegodd Mr Huws Gruffudd fod llawer o grwpiau amgylcheddol yn gwneud gwaith pwysig, ond ei fod yn pryderu fod peth o'r gwariant "o dan y radar" ac nad oes cymaint o graffu ac mewn rhai meysydd eraill o wariant cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru fod rhaid cyflwyno cynllun busnes gyda phob cais am grant, a bod swyddogion yn gyson yn monitro'r arian a'i gymharu gyda thargedau.
Gwirfoddol
Mae BBC Cymru wedi bod yn astudio gwariant y llywodraeth mewn nifer o'r meysydd.
Dros y tair blynedd ddiwethaf mae aelodau o'r grŵp ymbarél Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi derbyn cyfanswm o £19,971,012 gan lywodraeth Cymru.
Ymhlith y rhai dderbyniodd y symiau mwyaf oedd Cadw Cymru'n Daclus (£8,258,896), Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (£6,244,046) a Sustrans Cymru (£5,291,046).
Ond mae Rory Francis - un o ymddiriedolwyr Cyswllt Amgylchedd Cymru - yn mynnu fod grantiau i grwpiau fel hyn yn fodd effeithiol dros ben o wneud gwelliannau gan y gallai grwpiau wneud defnydd o waith gwirfoddol sydd ddim ar gael i'r llywodraeth.
"O'i gymharu â sector y wladwriaeth rydym yn fach iawn, ac mae llawer o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn gweithio gyda gwirfoddolwyr," meddai Mr Francis.
"Mae'r sector gwirfoddol, i raddau helaeth iawn, yn un sy'n gofalu am yr amgylchedd, ac yn rhoi gwerth da iawn am arian i'r trethdalwr.
"Yn y bôn, gall y llywodraeth ychwanegu gwerth am arian drwy roi symiau bach o arian, ond mae'r penderfyniadau am ariannu yn cael eu gwneud - yn gwbl briodol - gan weinidogion, a nhw sy'n atebol am y penderfyniadau."
Cyfarfodydd
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru fod y broses o roi grantiau yn hollol glir.
"Mae targedau a rhaglen waith yn cael eu cytuno ar ddechrau bob blwyddyn ariannol ac yn cael eu hadolygu bob tri mis a'u haddasu lle bo angen," meddai.
"Mae llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda'r sefydliadau sy'n derbyn arian ac yn asesu cynnydd a pherfformiad yn erbyn y cynllun busnes.
"Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o sefydliadau sy'n derbyn grantiau bob tair neu bedair blynedd cyn gwneud penderfyniadau ariannu i'r dyfodol."
Mewn cyfres o adroddiadau drwy gydol yr wythnos fe fydd BBC Cymru hefyd yn edrych ar wariant Llywodraeth Cymru, grantiau busnes a thrafnidiaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011