Galw ar Lywodraeth Cymru i gyfiawnhau eu gwariant

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfanswm o £41,904,076 ei wario ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata ac ymgynghorwyr rheoli rhwng Ebrill ac Awst

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario bron i £42m ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata ac ymgynghorwyr rheoli yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Fe aeth BBC Cymru ati i ddadansoddi dros 11,000 o eitemau o wariant dros £25,000 sydd nawr yn cael eu cyhoeddi'n fisol gan weinidogion.

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar i'r llywodraeth gyfiawnhau'r gwariant.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwariant ar ymgynghorwyr allanol wedi'i dorri o 50% ac fe bwysleisiwyd hefyd mai oherwydd ymrwymiad y llywodraeth i fod yn agored y mae'r ffigyrau ar gael.

Fe fu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwyso ar y llywodraeth i gyhoeddi mwy o fanylion am eu cyn i'r Gyllideb gael sêl bendith y Cynulliad fis Rhagfyr.

Yn ôl llefarydd y blaid ar gyllid, Peter Black AC, roedd hi'n werth cymharu'r swm a wariwyd ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata ac ymgynghorwyr rheoli gyda'r hyn a wariwyd ar y sector wirfoddol dros yr un cyfnod yng Nghymru, sef £34.5m.

Fe ddywedodd: "Mae'n codi cwestiynau am eu blaenoriaethau. Mae'r swm maen nhw'n ei wario ar dechnoleg gwybodaeth ac ymgynghorwyr yn rhyw £10miliwn yn fwy na'r gwariant ar y sector gyhoeddus ac mae'n rhaid i rywun ofyn, ydy'r sector wirfoddol yn fwy neu'n llai pwysig na'r swm sydd wedi'i wario ar ymgynghorwyr?

"Mae angen i'r llywodraeth gyfiawnhau'r gwariant a dweud wrthon ni'n union ble mae'r arian yn cael ei wario a pham fod rhaid ei wario fe fanna yn hytrach nag ei roi i'r sector wirfoddol, sy'n rhoi gwasanaeth da iawn ac yn aml yn gyfrifol am wasanaethau o bwys i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol."

Ond yn ôl Peter Cox, sydd wedi rhedeg cwmni ymgynghorol ar ei liwt ei hun ers dros 20 mlynedd, mae'n rhy hawdd gweld bai ar wariant ar dechnoleg gwybodaeth ac ymgynghorwyr.

Meddai: "Bwriad llawer o'r swyddi dwi wedi'u gwneud yw arbed arian i gwmnïau a chyrff cyhoeddus.

Arbedion sylweddol

"Yn bennaf mae rhywun ar ôl newid pethau'n raddol a newid natur corff, yn hytrach nag atebion sy'n arbed arian mawr. Os mai ateb hawdd rydych chi ar ei ôl, wel nid felly mae bywyd".

Cyfanswm y gwariant ar dechnoleg gwybodaeth, marchnata ac ymgynghorwyr oedd £41,904,076 rhwng Ebrill ac Awst, yn ôl ffigyrau sydd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn, dolen allanol.

Ymhlith y rheiny dderbyniodd y rhan helaethaf o'r arian, roedd cwmni IT enfawr Logicalis UK, a gafodd £17,031,383 dros bum mis, a CapGemini gafodd £6,073,258.

Fe wariwyd £3,824,856 i gyd ar ymgynghorwyr rheoli.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, roedd gwariant ar ymgynghorwyr allanol wedi'i dorri 50% ers 2010 ac wedi arbed arian sylweddol.

Fe ddywedodd: "Mae'n rhaid i bobol ei chael hi'n hawdd canfod sut rydyn ni'n gwario arian trethdalwyr".

Cyllid 'allweddol'

"Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn agored, fe wnaeth y Prif Weinidog addewid ym mis Mehefin i gyhoeddi manylion pob gwariant dros £25,000".

Fe ddywedodd y llywodraeth fod y gwariant o £39m ar dechnoleg gwybodaeth, tua 40% gan gynnwys y taliadau i Logicalis, yn rhan o gynllun i gyflwyno rhwydwaith data diogel ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys meddygfeydd meddygon teulu, ysgolion, awdurdodau lleol, yr heddlu, tân a'r gwasanaethau achub.

Roedd 46% arall yn ymwneud â chytundebau mewnol y llywodraeth ar faterion fel cyllid, adnoddau dynol a systemau rheoli cofnodion, gan gynnwys taliadau grantiau.

Wrth ymateb i'r hyn a wariwyd ar y sector wirfoddol, dywedodd Graham Benfield, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, fod yr arian mae'r sector yn ei gael gan y llywodraeth yn ganolog yn allweddol.

"Mae'n gwbl hanfodol, gan fod cyfran fawr o incwm y sector yn awr yn dod o lywodraethau o ryw fath neu'i gilydd. Ond fel cyfran o'u gwariant nhw mae'n bitw - 2.8% o gyllideb Llywodraeth Cymru".

"Mae'n gwbwl allweddol felly nad yw'r 2.8% yn cael ei dorri, ac yn wir fe allech chi ddadlau y dylai fod yn cynyddu am fod newid bach iawn yn y gyfran o wariant y llywodraeth, i fyny neu i lawr, yn cael effaith aruthrol arnon ni".

Mae'r pum mis o gofnodion gwariant yn ymdrin ag 11,286 o eitemau amrywiol sy'n dod i gyfanswm o £5.8 biliwn i gyd.

Mewn cyfres o adroddiadau drwy gydol yr wythnos fe fydd BBC Cymru hefyd yn edrych ar grantiau busnes, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol