Economi: Jones yn 'eistedd ar ei rwyfau'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Carwyn Jones o orffwys ar ei rwyfau a gadael i'r argyfwng ariannol gael yr effaith "waetha' posib" ar Gymru.
Fe wadodd y Prif Weinidog honiadau Ieuan Wyn Jones "nad oedd 'na weithredu wedi bod ar yr economi" ers etholiad mis Mai.
Yn ôl Carwyn Jones, roedd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei chyfrifoldebau er gwaetha'r toriadau cyllid y Trysorlys.
Roedd Mr Jones hefyd wedi gwrthdaro gydag arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies, ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yn ystod y sesiwn holi yn y Senedd.
Dyma'r ail wythnos yn olynol i'r Prif Weinidog gael ei herio gan arweinydd Plaid Cymru ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei wneud i gynnal yr economi.
'Sbin'
Ddydd Llun cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o'r prosiectau sy'n derbyn cyllid cyfalaf gwerth cyfanswm o £1.3 biliwn - rhan o ymdrech i ddangos bod Llafur yn buddsoddi mewn isadeiledd er gwaetha' toriadau cyllid gan San Steffan.
Ond honnodd arweinydd Plaid Cymru, Mr Jones, mai enghraifft o "sbin" oedd y cyfan, a bod y rhestr yn cynnwys prosiectau oedd wedi'u cyhoeddi o dan y glymblaid Llafur-Plaid flaenorol, rhai ohonynt eisoes wedi'u cwblhau.
Dywedodd: "Yr unig gasgliad alla' i ddod iddo o'ch methiant i weithredu yw eich bod wedi penderfynu gorffwys ar eich rhwyfau, gadael i'r argyfwng economaidd gael yr effaith gwaetha' posib a rhoi'r bai ar y Ceidwadwyr am bopeth."
Yn ôl y Prif Weinidog: "Dyma'r tro cynta' i mi glywed llywodraeth yn cael ei beirniadu am gyflawni ei hymrwymiadau a dyma'r tro cynta' i mi glywed llywodraeth yn cael ei beirniadu am gyflawni ei haddewidion."
Ychwanegodd fod "swm sylweddol" wedi cael ei neilltuo, gan gynnwys arian i'r gwasanaeth iechyd, gyda chyhoeddiadau eraill i ddod yn ddiweddarach y mis hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "cymaint ag y gallwn ni i amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau sy'n cael eu gorfodi arnynt."
'Gwamal'
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, gyhuddo'r Prif Weinidog o fod yn "wamal" ynglŷn â phryderon nyrsys, wedi i arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ddangos fod bron i hanner nyrsys wedi ystyried rhoi'r gorau i'w gwaith dros y flwyddyn ddiwetha' a bod 60% o dan bwysau yn eu gwaith.
Ond mynnodd Mr Jones fod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cefnogi polisïau'r llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd, "mewn cyferbyniad amlwg gyda rhannau eraill o'r DU", gan ychwanegu: "Rwy'n fodlon betio, petai chi'n gofyn i nyrsys yng Nghymru ble byddai orau ganddynt weithio, Cymru neu Loegr, y bydden nhw'n dewis Cymru."
Dywedodd fod nifer o ACau Llafur wedi edmygu'r ffordd yr oedd rhagflaenydd Mr Davies, Nick Bourne, wedi adeiladu'r blaid Geidwadol Gymreig " a nawr rydyn ni wedi gweld arweinydd yr wrthblaid yn dadwneud y gwaith mewn tri mis."
Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, i'r Prif Weinidog egluro safbwynt ei lywodraeth ar ariannu busnesau.
Yn ôl Mr Jones, roedd rhai ymrwymiadau wedi'u cyflwyno o dan y drefn grantiau flaenorol.
"Ydych chi'n dweud y dylen ni dynnu'n ôl o'r ymrwymiadau hynny?" meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011