Apêl Eryri i godi £1m yn cyrraedd ei nod
- Cyhoeddwyd
Mae apêl gefn gwlad fwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers mwy na 10 mlynedd, i ddiogelu dyfodol fferm fynydd, wedi cyrraedd ei tharged o £1m mewn ychydig dros saith mis.
Yr actor Matthew Rhys sydd wedi arwain yr apêl i ddiogelu fferm 600 erw Llyndy Isaf ar lannau Llyn Dinas ger Beddgelert.
Hefyd mae Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffydd a'r cyflwynwyr teledu, Iolo Williams a Kate Humble, wedi cefnogi'r ymgyrch.
Dywedodd Matthew Rhys fod yr Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith pwysig wrth amddiffyn y tirlun.
'Byd enwog'
"Mae cefn gwlad Cymru yn agos i'm calon," meddai.
"Dwi'n credu bod y fferm a'r Parc a'r rhan hon o Gymru yn fyd enwog ac mae'n rhan o bwy ydan ni fel cenedl.
"Mae pwysigrwydd y lle mor amlwg, mae'r gadwraeth a'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn wych.
Ychwanegodd fod Eryri wedi bod yn bwysig iddo ers ei blentyndod "a'r peth lleiaf oeddwn yn gallu ei wneud oedd rhoi fy enw tuag at yr ymgyrch."
Ond nid dim ond enwogion sydd wedi cefnogi'r apêl, fel yr esboniodd Rhys Evans o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan ymateb y cyhoedd - mae'n anhygoel pa mor hael mae pobl wedi bod," meddai.
'Heriau hynod'
"Er gwaetha'r cyfnod economaidd anodd, maen nhw wedi cefnogi'r apêl o ddifri ac mae hynny'n dangos pa mor bwysig ydi diogelu mannau arbennig fel Llyndy Isaf.
"Fe aeth cymaint o bobl gam ymhellach hefyd oherwydd heriau hynod i godi arian, fel Heather Letley a Matthew Jones a nofiodd ran hir o Afon Tafwys, a Julie a Mark Allen a feiciodd ar Mont Vernox yn Ffrainc dair gwaith mewn diwrnod."
Mae Llyndy Isaf yn nyffryn Nant Gwynant, yn un o'r mannau amgylcheddol pwysig yn Eryri, heb ei gyffwrdd gan ffermio dwys ac yn gartref i lawer o rywogaethau bywyd gwyllt sydd dan fygythiad ac o bwysigrwydd rhyngwladol - fel glas y dorlan, y dyfrgi a'r frân goesgoch.
Dywedodd Mr Evans: "Yr her oedd codi'r arian erbyn diwedd y flwyddyn i ddiogelu dyfodol Llyndy Isaf.
"Yn awr, diolch i haelioni cymaint o bobl fe allwn ni ddechrau ymgynghori â'r gymuned leol a'r undebau ffermio i benderfynu'r cam nesaf ar gyfer y rhan arbennig yma o Gymru."
Daw'r ymgyrch i godi'r £1 miliwn 13 blynedd ers i Syr Anthony Hopkins gyfrannu swm sylweddol at apêl flaenorol yr Ymddiriedolaeth yn 1988 i "Arbed Yr Wyddfa" a phrynu stad Hafod y Llan am £3.5 miliwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011