Diabetes: 'Angen mwy o ofal'
- Cyhoeddwyd
Mae Diabetes UK Cymru wedi galw am fwy o gamau ar Ddiwrnod Diabetes y Byd ddydd Llun i wella gofal.
Nid yw llawer o bobl yng Nghymru â'r clefyd yn cael gofal iechyd a chefnogaeth ddigonol, yn ôl arolwg yr elusen.
Mae'r arolwg, sydd wedi ei seilio ar brofiadau 7,000 o bobl yn y DU, yn dangos nad yw un o bob pedwar o bobl yn cael profion traed blynyddol, nad yw un o bob pump yn cael profion arennau blynyddol ac nad yw traean wedi cael cynnig unrhyw addysg erioed i'w helpu i reoli'r clefyd.
Mae'r arolwg yn cadarnhau manylion Cymru o'r Archwiliad Diabetes, nad oedd 43% o bobl wedi cael y profion iechyd hanfodol.
Methiant yr arennau
Gan nad yw o leiaf 27,000 wedi cael archwiliad traed blynyddol, mae'n bosib iawn eu bod mewn perygl o golli rhan o'u corff.
Mae cael profion cyson yn lleihau'r perygl o gymhlethdodau fel dallineb, strôc, clefyd y galon a methiant yr arennau.
Dywedodd yr elusen y dylai pobl gefnogi ymgyrch 15 o hanfodion gofal iechyd sy'n nodi lleiafswm y safonau gofal y dylai pobl sydd â'r clefyd eu cael yn flynyddol.
Mae Dai Williams, cyfarwyddwr yr elusen, wedi dweud: "Mae llawer o gymhlethdodau oherwydd y clefyd ond i raddau helaeth mae modd eu hatal os yw pobl yn cael y gofal a'r gefnogaeth angenrheidiol.
"Mae'n gywilyddus nad yw pobl yn cael y cyfle i fyw bywydau normal ac iach am nad ydyn nhw'n cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.
5%
"Rhaid i'r 160,500 o bobl sydd â'r clefyd yng Nghymru'n gael y 15 o hanfodion gofal iechyd sydd eu hangen arnyn nhw."
Dywedodd ei fod yn galw ar bob un i fynnu'r gofal - a'i fod yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu.
Bellach mae'r clefyd ar 5% o'r boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 4.5%.
Mae'r cyfartaledd uchaf, 6.47%, ym Mlaenau Gwent, a'r isaf, 3.6%, yng Nghaerdydd.
Cododd yr achosion 4.4% yng Nghymru'r llynedd.
'Croesawu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu ymdrechion Diabetes UK Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r cymhlethdodau posib i bobl gyda diabetes a'r pwysigrwydd o gael archwiliadau meddygol rheolaidd i wneud yn siwr fod eu cyflwr yn cael ei reoli'n effeithiol ac nad yw eu iechyd yn mynd yn waeth.
"Ynghyd â darparu gofal a thriniaeth ar gyfer pobl gyda diabetes, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn codi ymwybyddiaeth o'r pwysigrwydd o ffordd o fyw iach, gan gynnwys bwyta'n iach, yfed alcohol yn synhwyrol a pheidio ag ysmygu, drwy greu amgylcheddoedd a fydd yn help pobl i wneud dewisiadau iach.
"Ein ffocws yw gwneud yn siwr bod pobl sydd â neu mewn perygl o ddatblygu diabetes yn cael mynediad at ofal o ansawdd uchel."