Newid tâl: 'Miloedd o denantiaid ar eu colled'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai cymunedol yng Nghymru wedi dweud y bydd "miloedd o denantiaid ar eu colled" wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau mae cwmnïau trydan yn eu talu am ddefnyddio paneli solar i gynhyrchu ynni'r haul.
Bydd y tâl am drydan paneli solar ar gartrefi yn gostwng o 43.3c y cilowat awr i 21c i unrhyw un sy'n cofrestru eu system ar ôl Rhagfyr 12, ac yn gostwng i 16.8c i systemau dros 4kW.
Mae cymdeithasau tai wedi bod yn datblygu prosiectau i osod paneli ar filoedd o dai eu tenantiaid yng Nghymru, gan fwriadu gostwng eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon.
Ond yn ôl Cartrefi Cymunedol Cymru, mae llawer o'r cynlluniau yn annhebyg o gael eu gwireddu gan na fydd y taliadau newydd yn ddigonol o ystyried costau gosod a chynnal y paneli.
'Tlodi tanwydd'
Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: "Ar ôl gostwng y taliadau, bydd nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol ddim yn gallu dechrau neu barhau â phrosiectau.
"Bydd hyn yn golygu y bydd miloedd o denantiaid - y mae llawer ohonynt yn byw mewn tlodi tanwydd - yn colli'r cyfle i leihau eu biliau trydan, ar adeg pan fo biliau ynni yn cynyddu'n fawr".
Mae 'tlodi tanwydd' yn cael ei ddiffinio fel cartref sy'n gwario mwy na 10% o incwm y tŷ (gan gynnwys budd-dal tai) ar danwydd i gynhesu'r tŷ yn ddigonol.
Mae aelodau Cartrefi Cymunedol Cymru yn darparu dros 127,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.
25 mlynedd
Bydd unrhyw un neu unrhyw gwmni sy'n cofrestru eu system cyn Rhagfyr 12 yn derbyn y gyfradd bresennol am 25 mlynedd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Greg Barker AS: "Mae'r ffaith bod costau systemau solar ffotofoltäig yn cwympo yn golygu bod enillion i fuddsoddwyr yn ddwbl yr hyn a ragwelwyd ar gyfer y cynllun, sydd ddim yn darparu gwerth am arian.
"Os nad ydym yn gweithredu ar unwaith, fe fyddai'r holl gyllideb o £867m yn caei ei gwario o fewn misoedd."
Ychwanegodd y byddai'r tâl newydd yn golygu y byddai cymorthdaliadau yn fwy tebyg i'r hyn a geir yn yr Almaen.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y cwmni sy'n noddi bwletinau tywydd S4C y bydd pobl yn colli eu swyddi yn y diwydiant ynni haul wedi'r newid yn y tâl.
Dywedodd cwmni PV Solar Solutions wrth BBC Newyddion Ar-lein fod amseriad y cyhoeddiad "yn hynod o wael" a bod y cyfnod o rybudd yn waeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011