£1.3 miliwn i adfywio treftadaeth Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr Pantmorlais. Hawlfraint Leo DaviesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal y Stryd Fawr a grëwyd rhwng 1770 a 1820 yn cynnwys nifer o adeiladau hanesyddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi dros £1.3 miliwn i ddau gynllun adfywio ym Merthyr Tudful.

Eu nod yw adfywio'r ardal drwy dwristiaeth treftadaeth a mentrau economaidd.

Bydd Hanes Cyfarthfa a Menter Dreftadaeth Pontmorlais yn rhannu £1,301,875 i adfer adeiladau hanesyddol fel y gall y gymuned, busnesau ac ymwelwyr eu defnyddio unwaith eto.

Cafodd cynllun Pontmorlais £1.58 miliwn o Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis Medi eleni yn ogystal.

Nod Hanes Cyfarthfa yw adeiladu ar y gweithgareddau sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd yn ystâd Cyfarthfa.

Y bwriad yw adfer adeiladau a nodweddion gwreiddiol, fel y tŷ iâ a gardd y gegin.

Cyfoeth

Y gred yw y bydd cyfraniad y gymuned yn allweddol i lwyddiant y prosiect, ac mae bwriad darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau mewn sawl maes ar gyfer gwirfoddolwyr.

Y gobaith yw y bydd y cyfleusterau newydd a'r gweithgareddau yn codi proffil y parc, yn denu mwy o ymwelwyr ac yn sicrhau gwelliannau i'r dreftadaeth ac i'r amgylchedd y mae gwir angen amdanyn nhw.

Saif Pontmorlais yng nghanol tref Merthyr ac o'i gwmpas mae cyfoeth o adeiladau hanesyddol a diwydiannol sydd wedi dadfeilio dros y blynyddoedd.

O dan Fenter Treftadaeth Pontmorlais bydd nodweddion allanol rhai o adeiladau hynaf y fwrdeistref yn cael eu gweddnewid yn llwyr, a byddan nhw'n edrych fel yr adeiladau fyddai yno ers talwm.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys ailosod ffrynt siopau a ffenestri traddodiadol, adfer simneiau gwreiddiol, trwsio'r toeau gyda llechi o Gymru a gwneud gwaith brics a maen newydd.

Gobeithir y bydd yr adeiladau ar eu newydd wedd yn Chwarter Pontmorlais yn denu mentrau newydd i'r ardal ac yn helpu'r busnesau presennol drwy ddenu mwy o bobl a chreu gwaith.

'Diogelu'r dreftadaeth'

Wrth gyhoeddi'r £1.3 miliwn, dwedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod "cyfoeth o dreftadaeth ym Merthyr Tudful sy'n diffinio'r ardal hyd heddiw".

"Mae gwead cymdeithasol cymuned yr hen weithfeydd traddodiadol yn dal yn fyw, ac mae yno lawer iawn o dreftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau hanesyddol.

"Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n diogelu'r dreftadaeth honno ac yn ei defnyddio fel conglfaen i adfywio'r dref.

"Bydd y prosiectau hyn yn agor y drws i gyfleoedd lawer i'r gymuned a'r economi leol.

"Gall y rhaglen wirfoddoli yng Nghyfarthfa helpu pobl i gael cyfres ehangach o sgiliau a phrofiad ac yn Chwarter Pontmorlais gall safleoedd newydd helpu'r busnesau sydd yno eisoes a denu busnesau newydd i'r ardal.

"Mae ariannu'r prosiectau hyn yn ddull arall sydd gan Lywodraeth Cymru o roi hwb i greu swyddi, annog gweithgaredd economaidd ar lefel leol a chefnogi gweithwyr a chwmnïau adeiladu bach."

Mae'r dyfarniad yn cynnwys £1,241,875 o raglen Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd a £60,000 oddi wrth Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru .

Bydd yr arian hefyd yn help i ddenu £4,444,944 arall o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac o fuddsoddiadau yn y sector preifat.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol