Gweithgareddau i arbed gwastraff

  • Cyhoeddwyd
Canolfan ailgylchuFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 45% o sbwriel Cymru yn cael ei ailgylchu yn ôl Craff am Wastraff

Mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu ledled Cymru fel rhan o Wythnos Arbed Gwastraff Ewrop.

Bydd cynllun 'Craff am Wastraff' yn cyfleu'r neges ei bod yn bwysig creu llai o wastraff yn y lle cyntaf.

Dywed y trefnwyr bod cartrefi Cymru yn cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod.

"Yma yng Nghymru, rydyn ni bellach yn ailgylchu dros 45% o'n sbwriel ac mae ailgylchu wedi dod yn rhan o'n bywyd bob dydd," meddai Georgina Taubman o Gynllun Craff am Wastraff.

"Ond er ei bod yn bwysig iawn ailgylchu cymaint ag y gallwn ni, y ffordd orau o ddiogelu ein planed yw cynhyrchu llai o wastraff yn y lle cyntaf.

Arbed arian

"Dyw hi ddim yn anodd meddwl cyn prynu, trwsio pethau yn hytrach na'u taflu a rhoi i bobl eraill y pethau nad oes eu hangen arnon ni bellach.

"Pe bai pawb yn gwneud hynny, byddai modd diogelu'r amgylchedd ac arbed arian fel ei gilydd."

Mae Wythnos Arbed Gwastraff Ewrop yn rhoi'r cyfle i ysgolion, grwpiau cymunedol, cwmnïau ac unigolion drefnu gweithgareddau megis siopau cyfnewid, casglu hen ddodrefn a diwrnodau rhoi gwybodaeth.

'Rhoi a chymryd'

Bydd gwledydd eraill megis Gwlad Belg, Estonia, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen a Sweden yn cynnal gweithgareddau yn ystod yr wythnos.

Ar y cyd â mudiad cymunedol Seren Cyf., bydd Cyngor Gwynedd yn agor gweithdy ailgylchu ac ailddefnyddio nwyddau y mudiad hwnnw ar Ystad Ddiwydiannol Llwyngell, Blaenau Ffestiniog, ddydd Llun.

Mae Adran Gwastraff Cyngor Sir Powys wedi rhoi biniau compostio i blant Ysgol Maesyfed, Llanandras, a bydd rhai o swyddogion yr adran yn ymweld â'r ysgol ddydd Mercher Tachwedd 23 i sôn am gompostio gartref.

Dydd Mercher hefyd bydd swyddogion trin gwastraff o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn mynd gyda phlant un o ysgolion cynradd yr ardal i gwmni lleol sy'n ailgylchu bwyd a phapur gwastraff fel y gallan nhw weld sut mae hynny'n digwydd a sut bydd o les i'r amgylchedd.

Bydd swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal stondin yn siop M&S yn y dref ddydd Iau i annog pobl i wastraffu llai o fwyd a hybu gwasanaeth casglu bwyd gwastraff y cyngor.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi trefnu achlysur 'rhoi a chymryd' yng Nghanolfan Gymunedol y Pontydd, Trefynwy, ddydd Sadwrn Tachwedd 26.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol