Bwriad i adleoli staff Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Dylan Thomas yn AbertaweFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Canolfan Dylan Thomas ei hagor gan gyn-Arlywydd America Jimmy Carter

Cafodd staff Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wybod y byddan nhw'n cael eu hadleoli petai newidiadau sylweddol yn mynd ymlaen.

Dywedodd Cyngor Sir a Dinas Abertawe eu bod yn agos iawn at gwblhau cytundeb i logi'r adeilad i Brifysgol Cymru.

Fe fyddai rhan helaeth o'r adeilad yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau creadigol er y bydd yr arddangosfa i Thomas yn parhau yno.

Dywedodd y cyngor y byddai'r staff o 23 yn cael cynnig ymgeisio am swyddi eraill gan geisio osgoi colli swyddi.

Bydd rhai aelodau yn parhau i fod yn gyfrifol am reoli'r ganolfan a'r arddangosfa.

Cafodd y staff wybod am y newidiadau posib mewn cyfarfod yr wythnos yma.

Arddangosfa

Ym mis Rhagfyr mae disgwyl i gabinet y cyngor drafod adroddiad a fydd yn cynnwys y newidiadau.

Petai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo fe fydd y brifysgol yn cymryd rheolaeth yr adeilad yn gynnar yn 2012.

Yn ôl y cyngor fe fydd rhai gwasanaethau yn cael lleihau wrth i staff gael eu hadleoli.

Fe fydd Arddangosfa Dylan Thomas a fydd yn parhau yn y ganolfan.

Bydd enw'r ganolfan yn aros fel Canolfan Dylan Thomas ac fe fydd yr adeilad yn gartref i Wobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru - y wobr ariannol fwya' i ysgrifenwyr ifanc.

Ymhlith y cynlluniau y mae rhaglen addysgiadol sy'n gysylltiedig gyda'r wobr sy'n ceisio hybu ysgrifennu creadigol.

Ond lleoliad busnes ar gyfer cwmnïau creadigol fydd prif fwriad yr adeilad.

Llythyr

Yn gynharach eleni fe wnaeth dros 200 o ysgrifenwyr, artistiaid a chefnogwyr y ganolfan - gan gynnwys awdur Dr Who, Russell T Davies; y gantores Cerys Matthews a'r bardd Carol Ann Duffy - arwyddo llythyr yn codi pryderon am ddyfodol y ganolfan.

Ond mae'r cyngor yn dweud oni bai am y fenter gyda'r Brifysgol, mae'n bosib y byddai'r ganolfan yn cau yn gyfan gwbl.

Dywedodd aelod cabinet y cyngor sydd â chyfrifoldeb am ddiwylliant, Graham Thomas, bod rhaid canolbwyntio ar arian cyfyngedig sydd ar gael mewn cyfnod economaidd anodd.

"Rhaid gwario'r arian cyfyng ar wasanaethau rheng flaen," meddai.

"Fe fydd y fenter ar y cyd yn gyfrifol am gynnal Canolfan Dylan Thomas ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru gan ddiogelu dyfodol yr atyniad a sicrhau bod etifeddiaeth Dylan Thomas yn parhau i gael ei ddathlu yn ei ddinas enedigol.

"Fe fydd 2014 yn ganmlwyddiant ei eni ac mae'n hynod bwysig ein bod yn adeiladu at ddathlu hynny ymhen dwy flynedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol