Dadl am ddarlun arwr Waterloo mewn llys

  • Cyhoeddwyd
Sir Thomas PictonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r darlun o Sir Thomas Picton ar wal y llys yng Nghaerfyrddin

Daeth galwad i dynnu darlun o arwr milwrol gafodd ei labelu'n lywodraethwr creulon o wal llys y goron Caerfyrddin.

Mae'r darlun o Sir Thomas Picton ar y wal y tu ôl i sedd y barnwr yn y llys.

Dywedodd y cyfreithiwr Kate Williams nad yw hi'n briodol fod llun Picton, un o gadfridogion Wellington ym mrwydr Waterloo, i gael lle blaenllaw yn y llys.

Ond dywed Amgueddfa Caerfyrddin - perchnogion y darlun - ei fod yn ei leoliad hanesyddol.

Picton, o Hwlffordd, ond y swyddog mwyaf blaenllaw i farw yn Waterloo yn 1815.

Mae cofeb iddo hefyd yng Nghaerfyrddin, ysgol gyfun wedi ei henwi ar ei ôl yn Sir Benfro a phenddelw ohono ochr yn ochr ag Owain Glyndŵr ac arwyr Cymreig eraill yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Cyn Waterloo, roedd yn llywodraethwr Trinidad lle bu honiad o arteithio yn ei erbyn fu bron a difetha'i yrfa.

Mewn achos llys yn Llundain fe'i cyhuddwyd o orfodi merch 13 oed, Luisa Calderon, o sefyll ar hoelen bren tra'n grog o'r nenfwd.

"Person o bwys"

Fe'i cafwyd yn ddieuog yn y llys, ac fe aeth ymlaen i atgyfodi ei yrfa filwrol.

Cafodd y darlun ohono ei gomisiynu pan oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan yr hen gyngor bwrdeisdref cyn iddo ddod yn llys barn.

Dywedodd Ms Williams wrth BBC Cymru: "Ar ôl clywed ei fod wedi ei gyhuddo o arteithio merch fach oedd yn gaethwas roeddwn yn teimlo nad oedd yn briodol cael ei ddarlun mewn llys barn lle yr ydym i fod i gynrychioli egwyddor cyfiawnder o bawb.

"Rwyn derbyn ei fod yn berson o bwys o'r ardal yma, ond rhowch y darlun mewn amgueddfa.

"Rwy'n meddwl y gallai pobl gamddeall safle'r darlun i feddwl ei fod wedi gwneud rhywbeth o bwys ym myd cyfiawnder, a dyw hynny ddim yn wir."

Ychwanegodd fod ganddi gefnogaeth eraill sy'n gweithio yn yr adeilad.

Dywedodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi eu bod ond yn lletya'r darlun ar ran Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

"Dyn ei gyfnod"

Dywedodd Ann Dorset o'r Amgueddfa nad oedd yn esgusodi Picton, ond fod y darlun wedi ei wneud i gael ei arddangos yn yr ystafell yma'n benodol, a dyna lle y dylai aros.

"Byddai'n biti ei symud o'r gartref gwreiddiol," meddai.

Ychwanegodd fod tystiolaeth ei fod yn llywodraethwr "creulon a bwystfilaidd" pan oedd yn gyfrifol am Trinidad, ond ei fod yn "ddyn ei gyfnod".

"Roedd yn gadfridog uchel ei barch, ond hefyd yn cael ei ystyried yn ddyn creulon.

"Roedd yn arweinydd mawr mewn rhyfeloedd caled - brywdro dyn am ddyn nid fel brwydrau heddiw, ac roedd yn ei chanol hi.

"Rwy'n meddwl bod rhaid i dderbyn Picton gyda'i holl frychau a pheidio ei farnu yn ôl safonau heddiw."