Cymuned yn awyddus i weld dyfodol i bafiliwn Pontrhydfendigaid

Roedd nifer o fudiadau lleol gan gynnwys y ffermwyr ifanc, yr Urdd, cneifio a sioe Pontrhydfendigaid am gadw'r pafiliwn
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 60 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau i drafod dyfodol pafiliwn Pontrhydfendigaid wrth iddo wynebu argyfwng ariannol.
Ar hyn o bryd mae'r costau o'i redeg yn anghynaladwy, yn ôl y perchnogion presennol.
Mae aelodau pwyllgor Eisteddfod Pontrhydfendigaid – sy'n berchen ar y pafiliwn – wedi penderfynu eu bod am ei werthu.
Biliau ynni uchel yw'r prif reswm am y penderfyniad yn ôl y pwyllgor – wrth ystyried y gost o yswirio'r pafiliwn, mae angen tua £2,000 y mis neu dros £20,000 y flwyddyn i gynnal y lleoliad.
Ond mewn cyfarfod heno, gafodd ei drefnu gan y cyngor cymuned, roedd mwyafrif y bobl am weld datrysiad arall yn hytrach na gwerthu'r pafiliwn ar y farchnad agored.
'Argyfwng yng nghefn gwlad'
Dywedodd cadeirydd y cyfarfod, y cynghorydd Ifan Davies, fod y gymuned wedi dangos "eu teimladau yn gryf iawn" a bod y mudiadau lleol gan gynnwys y ffermwyr ifanc, yr Urdd, cneifio a sioe Pontrhydfendigaid am gadw'r pafiliwn a "gweithio gyda'r pafiliwn er mwyn ei ddiogelu."
Mewn ymateb i'r cwestiwn a fyddai'r gymuned yn ystyried dod ynghyd i brynu'r pafiliwn dwedodd: "Mae'n rhaid i ni edrych ar bob opsiwn a phob opsiwn sy'n siwtio pob un.
"Wi'n credu'r peth mwyaf i ddod mas o'r cyfarfod heno yw'r argyfwng sydd yng nghefn gwlad bod ni'n colli pethau.
"Sa i'n credu bod e dim ond i Geredigion, ond trwy Gymru. Mae wedi bod yn wake up call dw i'n meddwl."
Fe dalodd y Cynghorydd Davies deyrnged i bwyllgor presennol y pafiliwn am roi amser gwirfoddol "dychrynllyd" i mewn i'r gwaith ac am gadw'r safle i fynd am gyhyd ers 2013, mewn amgylchiadau anodd.

Dywed Ifan Davies fod yn "rhaid i ni fel cymuned ddod at ein gilydd"
Ychwanegodd Ifan Davies fod y pafiliwn yn agos iawn at galonnau pobl y pentref: "Mae pobl sy' wedi'n gadael ni yn anffodus iawn wedi gweithio mor galed i gadw beth sy' 'da ni yn y pafiliwn yma.
"Dyw colli hwn ddim yn mynd i fod yn opsiwn sa i'n credu.
"Mae'n rhaid i ni fel cymuned ddod at ein gilydd a sicrhau dyfodol hwn er mwyn lles Pontrhydfendigaid, Ceredigion a Chymru."
Cafodd y pafiliwn gwreiddiol ei roi i'r gymuned yn y 1960au yn rhodd gan Syr David James, Pantyfedwen – dyn busnes o'r ardal wnaeth ei arian o fusnes llaeth yn Llundain.
Yn y degawdau ar ôl hynny fe wnaeth cyflwr yr hen bafiliwn ddirywio a chafodd rhan ohono ei ddinistrio mewn tân yn 2002.
Ar ôl hynny ffurfiwyd cwmni Pafiliwn Cyf gan bobl leol a chafwyd grant o bron i £2m i adnewyddu ac uwchraddio'r adeilad, gyda'r offer a'r adnoddau diweddara'.
Ond aeth Pafiliwn Cyf i'r wal yn 2013 mewn dyled i'r banc.
Pwyllgor Eisteddfod Pontrhydfendigaid sy'n berchen ar y pafiliwn ac mae grŵp o tua 20 o wirfoddolwyr wedi rhedeg y pafiliwn ers dros ddegawd.
'Er mwyn plant y dyfodol'
Bellach maen nhw wedi penderfynu ei werthu gan fod y costau rhedeg, medden nhw, yn anghynaladwy.
Gweneira Davies yw ysgrifenyddes pwyllgor carnifal Pontrhydfendigaid, un o ddim ond saith digwyddiad sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd yn y pafiliwn bob blwyddyn, sy'n cynnwys Eisteddfod Pantyfedwen.
Dywedodd Gweneira na fydd cymuned yn y Bont pe na bai'r pafiliwn ar gael i'r gymuned.
"Wnaethon ni ailsefydlu'r carnifal yn 2010 ac mae'n mynd o gryfder i gryfder.
"Fi'n teimlo bod e'n bwysig i ni drio cadw fe ar agor er mwyn y gymuned a phlant y dyfodol."

Dywed Efan Williams fod y penderfyniad "lan i'r gymuned yma nawr"
Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd Efan Williams, cadeirydd y pwyllgor sy'n berchen ar y pafiliwn: "Mae'n hynod bositif gweld bod cymaint o bobl wedi dod mas, gymaint o deimlad am y lle, mae'n diwylliant ni ac ardaloedd cefn gwlad ni yn iachus iawn.
"Ond ni dal yn yr un sefyllfa.
"Mae fe lan nawr i'r gymuned yma, os ydyn nhw'n gallu dod lan gyda chynnig call, sy'n bosibl ac sy'n mynd i elwa'r gymuned go iawn, ac sy'n golygu bod y peth yn gallu cario 'mlaen, grêt.
"A byddwn ni fel pwyllgor yn ystyried pob cynnig sy'n dod gerbron fel pwyllgor achos dy'n ni ddim eisiau gweld y lle yn cau chwaith."
Mewn ymateb i'r awgrym y gallai'r gymuned ystyried y posibilrwydd o brynu'r pafiliwn dwedodd Efan Williams – "Dyna fyddai'r datrysiad perffaith, achos byddai'n ddechreuad ffres, newydd ac ry'n ni am weld y gymuned yn parhau gyda hyn."
Fe fydd pwyllgor y pafiliwn yn cwrdd i drafod y camau nesaf ar Ragfyr 1.