Talu mwy i groesi'r pontydd

  • Cyhoeddwyd
Pontydd Hafren
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2017, fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus

Bydd rhaid i yrwyr ceir dalu 30c yn ychwanegol i groesi'r ddwy bont dros Afon Hafren o'r flwyddyn nesa, wrth i'r tollau gynyddu i £6.00.

Bydd gyrwyr faniau yn talu 60c yn fwy na'r £11.50 presennol, a gyrwyr lorïau trymion yn gweld cynnydd o 90c, i £18.10.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Severn River Crossing plc y byddai'r newidiadau yn dod i rym ar Ionawr 1 2012.

"Mae'r newidiadau yma yn ddigwyddiad blynyddol, sy'n cyd-fynd â Deddf Pontydd Hafren 1992".

Yn 2003 fe gychwynnodd ymgyrch i geisio dod â diwedd ar y tollau.

Mae Cast (Campaign Against Severn Tolls) yn ymgyrchu i gael gwared ar y tollau, sy'n codi arian ar yrwyr i mewn i Gymru yn unig, yn gyfan gwbl.

Dywedodd John Warman, ar ran yr ymgyrch: "Bydd modurwyr yn cael sioc o glywed y newyddion.

"Mae hyn yn rhywbeth anodd ei dderbyn.

"Dylen nhw rewi'r taliadau".

Yn 2017, bydd y ddyled ar y pontydd wedi ei thalu ac fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol