Lle i bob ysgol yn y DU ddysgu o achos Foden - awdur adroddiad

Jan Pickles oedd arweinydd yr adolygiad i achos y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd yr adolygiad ymarfer plant i achos y pedoffeil Neil Foden wedi dweud bod lle i ysgolion ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig ddysgu o'r achos.
Dywedodd Jan Pickles y byddan nhw'n "sicrhau bod popeth o'r adroddiad hwn yn cael ei roi mewn pecyn syml sy'n mynd allan i bob ysgol ledled Cymru, fel bod un o'r argymhellion yn glir".
Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod awdurdodau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i atal y prifathro rhag ymosod yn rhywiol ar ferched dros nifer o flynyddoedd.
Cafodd 140 o bobl eu holi er mwyn llunio'r adolygiad, gan gynnwys dioddefwyr a staff yn Ysgol Friars, Bangor.
Yn ôl yr awdur, dyma'r adolygiad mwyaf iddyn nhw ei gynnal yng Nghymru.
'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Adroddiad damniol a dychrynllyd' - dioddefwr Neil Foden
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl
Rhaid dysgu gwersi o adroddiad brawychus Foden - Comisiynydd
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
"Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu cyfnod bron i saith mlynedd o deyrnasiad Foden yn Ysgol Friars," meddai Ms Pickles.
Ychwanegodd fod Foden wedi sefydlu "diwylliant lle'r oedd yn rheoli" a'i fod yn gwneud "yr hyn yr oedd eisiau".
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Pickles fod Foden yn ddyn "galluog iawn".
"Fe welon ni o'n rheoli'r adran addysg, pan aeth i gyfarfodydd amddiffyn plant, gwelon ni ei fod wedi ceisio cael gwybodaeth am y broses amddiffyn plant.
"Mi wnaeth o ofyn i swyddog heddlu am sut roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio, roedd yn awyddus i ddarganfod sut roedd y sefydliadau eraill yn gweithio ac roedd yn gwneud hynny er mwyn iddo allu mynd ymlaen i gam-drin."

Roedd Neil Foden yn arweinydd undeb ac yn aml yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd
Aeth Ms Pickles ymlaen i nodi fod sawl argymhelliad o'r adroddiad wedi eu nodi, a bod lle i bobl ddysgu o'r adroddiad ar draws Cymru a thu hwnt.
"Mae 27 o argymhellion - maen nhw i gyd yn glir iawn, mae rhai yn benodol, mae rhai ar gyfer yr awdurdod lleol, mae rhai ar gyfer Llywodraeth Cymru.
"Rydyn ni'n teimlo bod lle i ddysgu o'r ysgol hon yng Ngwynedd, ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, ac yn ehangach.
"Dwi'n meddwl fod hyn ar gyfer bob ysgol yn y Deyrnas Unedig.
"Byddwn yn siarad â Lloegr a'r Alban, yn enwedig am y gwersi o'r adolygiad hwn... mae'r gwersi o'r adolygiad hwn yn bwerus.
"Byddwn yn sicrhau bod popeth o'r adroddiad hwn yn cael ei roi mewn pecyn syml sy'n mynd allan i bob ysgol ledled Cymru, fel bod un o'r argymhellion yn eithaf clir.
"Gallwn ni i gyd ddysgu o hyn. Mae'n anarferol bod rhywun mor soffistigedig â Foden yn rhedeg ysgol.
"Ond mae'n rhaid i ni warchod rhag hynny ym mhob agwedd o fywyd."

Jenny Williams ydy cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Yn ôl Jenny Williams, cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, mae angen i bawb feddwl am "ein systemau diogelu ni o fewn cynghorau".
Dywedodd ar y cyfan fod ysgolion yn lleoliadau "saff", ond fod "rhywbeth mawr o'i le efo'r ffordd oedd Foden yn rheoli ac yn 'neud yn siŵr fod lleisiau'r plant yna byth yn cael eu codi.
"Dwi'n mynd i 'neud popeth yn fy ngallu fel cadeirydd i 'neud yn siŵr bod ni'n dangos newid, yn enwedig yn y gogledd," meddai.
"Ond wrth gwrs rhaid i bawb gydweithio yng Nghymru a rhaid i ni gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i 'neud hynny hefyd, felly dwi yn sicr isio gweld newidiadau."
Wrth gael ei holi am y profiad o weithio ar yr adolygiad yn achos Foden, dywedodd Ms Williams: "O ddydd i ddydd dwi'n gorfod bod yn broffesiynol, ond mae o wedi cael effaith fawr arna i'n bersonol".
"Dwi ddim wedi gweld adolygiad fel hyn, ac adroddiad fel 'naethon ni gyhoeddi ddoe.
"Er dwi wedi'i weld o sawl gwaith, o'n i'n darllen o bore 'ma, jest i atgoffa fi, a bob tro mae'n taro fi - aeth pethau o'i le."
'Adnabod camau pellach'
Wrth ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys bod yr achos "ysgytwol" yma wedi "achosi gymaint o niwed i fywydau plant", a bod y cyngor "wedi ein ffieiddio gan y manylion sydd wedi eu hamlygu".
Dywedodd ei bod yn "cymryd cyfrifoldeb am y camgymeriadau a'r cyfleoedd a fethwyd", gan "ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a'u cryfder".
Mae'r gwaith o adfer y sefyllfa wedi dechrau, meddai, a bydd y cyngor yn "mynd drwy'r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd".
"Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant – nawr ac i'r dyfodol."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle ar lawr y Senedd ddydd Mawrth fod yr adolygiad yn "ddarlleniad difrifol a syfrdanol".
Fe wnaeth hi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion a gafodd eu cyfeirio atyn nhw.
"Rydym wedi ymrwymo i weithredu ar bob un ohonyn nhw ar unwaith," meddai.