Osborne: Arian ychwanegol i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
George Osborne yn y SeneddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd George Osborne yn cyflwyno ei gynlluniau yn y Senedd

Mae Llywodraeth Cymru yn aros i glywed a fydd ei chyllideb yn derbyn arian ychwanegol yn dilyn cynlluniau Llywodraeth San Steffan i fuddsoddi mewn isadeiledd.

Mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne ddarparu £5bn o wariant cyfalaf, wedi ei ariannu gan doriadau ac arbedion mewn meysydd eraill, ar gyfer cynlluniau o gwmpas y DU.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru y gallai Cymru gael "hwb sylweddol" pan fydd Mr Osborne yn gwneud datganiad ddydd Mawrth.

Mae canran o'r arian sy'n cael ei wario yn Lloegr ar feysydd datganoledig yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru, sy'n medru gwario'r arian fel y mynno.

£5bn

Bydd y £5bn yn cael ei wario ar brosiectau sector cyhoeddus dros dair blynedd.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi dweud y byddan nhw'n trafod sut i wario'r arian a ddaw i Gymru gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ddod i gytundeb ynglŷn â'r Gyllideb Gymreig.

Dywedodd y datganiad fod y ddwy blaid wedi dod i gytundeb ynglŷn â phecyn gwerth £38.9 miliwn i sbarduno'r economi a diogelu swyddi.

Fe fydd y £39m yn cael eu gwario ar wella adeiladau ysgolion a chreu prentisiaethau.

Fe fydd rhaglen yn cael ei hariannu o ran recriwtio pobl ifanc ac mae'r llywodraeth wedi dweud y byddai £4.9m ychwanegol yn creu 1,800 o brentisiaethau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai £9m ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a'r un swm yn cael ei wario ar 130 o gartrefi ychwanegol.

Y nod yw gwario £3.5m ar wella ffyrdd mewn ardaloedd menter.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol