Cyhoeddi £39m o hwb i'r economi
- Cyhoeddwyd
Fe fydd £39m yn cael eu gwario ar wella adeiladau ysgolion a chreu prentisiaethau.
Roedd targed y buddsoddi dros gyfnod o ddwy flynedd yn rhan o gytundeb cyllideb Llywodraeth Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe fydd yr arian yn dod o'r Trysorlys am fod y cyngor treth wedi ei rewi yn Lloegr.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y byddai'r economi ar ei hennill "yn syth".
Fe gyhoeddodd Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod wedi taro bargen ar y gyllideb nos Wener.
Fe fydd rhaglen yn cael ei hariannu o ran recriwtio pobl ifanc ac mae'r llywodraeth wedi dweud y byddai £4.9m ychwanegol yn creu 1,800 o brentisiaethau.
£9m
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai £9m ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a'r un swm yn cael ei wario ar 130 o gartrefi ychwanegol.
Y nod yw gwario £3.5m ar wella ffyrdd lle bydd ardaloedd menter.
Roedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llafur am beidio ag ymateb yn ddigonol i'r cyni economaidd.
Dywedodd Ms Hutt: "Mae'r pecyn diweddara yn adeiladu ar fesurau eraill i hybu'r economi a datblygu gwasanaethau cyhoeddus.
"Fe fydd yr effaith i'w gweld yn syth ac fe fydd yn cryfhau amcanion tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011