Ymdrechion Cymru er cof am Gary Speed
- Cyhoeddwyd
Mae un o ser ifanc Cymru, Joe Allen, wedi ychwanegu at y teyrngedau yn dilyn marwolaeth rheolwr Cymru, Gary Speed.
Dywedodd chwaraewr canol cae Abertawe, 21 oed, y bydd chwaraewyr Cymru yn benderfynnol o wireddu breuddwyd Speed o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
"Roedd gan Gary Speed freuddwyd o gael ei dîm i Gwpan y Byd," meddai Allen.
"Bydd pawb yn rhoi popeth sydd gennym i wneud yn siwr ein bod yn ceisio gwireddu hynny er mwyn anrhydeddu ei enw."
Cafodd Allen ei gap cyntaf gan John Toshack yn erbyn Estonia yn 2009, ac mae wedi chwarae pedair gwaith - un fel eilydd - o dan reolaeth Speed.
Enillodd Cymru y dair gêm pan ddechreuodd Allen - y ddwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012 yn erbyn Y Swistir (2-0) a Bwlgaria (1-0), ac yna'r fuddugoliaeth ysgubol o 4-1 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn gynharach yn y mis.
Dyna'r buddugoliaethau wnaeth danlinellu'r gobaith a'r disgwyliadau o dîm Gary Speed.
"Yn amlwg roedd y newyddion yn frawychus," medd Allen.
"Roedd yn berson arbennig iawn yn gyntaf, ac yn ddyn pêl-droed arbennig hefyd. Roedd hi'n dristwch mawr i ni glywed y newyddion ac fe fydd colled fawr ar ei ôl.
"Roedd yn ysbrydoliaeth. Cyn i mi ei gyfarfod roedd yn chwaraewr yr oeddwn i wedi ei wylio a'i edmygu wrth dyfu, ac roedd cael ei nabod yn anhygoel.
"Bydd pob chwaraewr yng ngharfan Cymru yn dweud yr un peth.
"Fe wnaeth ein hysbrydoli ni fel tîm, a bydd yr un ohonom ni'n anghofio hynny.
"Fe fyddwn ni'n ei gynrychioli bob tro y byddwn yn cerdded ar y cae pêl-droed."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011