Lynette White: Achos yn dymchwel
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn am ymchwiliad annibynol ar ôl i achos llys yn ymwneud ag wyth o'u cyn-swyddogion ddod i ben yn sydyn.
Cafodd yr achos yn erbyn wyth cyn-heddwas oedd wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988 ei ddymchwel ddoe.
Dywedodd y barnwr na fyddai'r wyth a dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn oedd wedi gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw yn cael achos teg.
Cafodd Lynette White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd ar ddydd San Ffolant 1988.
Roedd wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau.
Daeth yr achos llys a ddilynodd yn un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder ar ôl i dri dyn lleol gael eu carcharu ar gam.
Yn 1990 cafodd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, sef Tri Caerdydd, eu carcharu am oes.
Cafodd y dyfarniad ei ddiddymu dwy flynedd yn ddiweddarach yn dilyn apêl.
Dros ddegawd yn ddiweddarach plediodd dyn o'r enw Jeffrey Gafoor yn euog i'r llofruddiaeth.
Cafodd ei garcharu am oes yn 2003.
Gwadu cyhuddiad
Yn yr achos diweddaraf, roedd wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac roedd dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn wedi gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, fe gafodd rheithfarnau dieuog eu cofnodi yn achos y deg diffynnydd.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Sweeney wrth y llys: "Pan mae achos yn troi yn ddiatbryn annheg mae'n rhaid ei atal."
Nid yw'r llys wedi eistedd ers tair wythnos, a dywedodd y barnwr fod materion wedi dod i'w sylw yn y cyfnod yna yn ymwneud ag ymddygiad yr erlyniad a'i ddyletswydd i ddatgelu tystiolaeth.
Dinistrio ffeiliau
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i beidio bwrw 'mlaen gyda'u tystiolaeth yn yr achos, a dywedodd Simon Clements, cyfreithiwr adolygu'r CPS yn yr achos:
"Ar gais y barnwr ar Dachwedd 28, fe ddangosodd adolygiad gan yr erlyniad o ddeunydd na chafodd ei ddefnyddio bod rhai ffeiliau ar goll.
"Fe gafodd y ffeiliau yma eu hadolygu yn wreiddiol, ond ni ystyriwyd y dylid eu defnyddio.
"Wrth ymchwilio ymhellach, fe ddaeth i'r amlwg fod y ffeiliau wedi cael eu dinistrio, ac na chafodd rheswm am eu dinistrio ei gofnodi gan y plismyn a wnaeth hynny.
"Er mai copïau o'r ffeiliau oedd y rhain ac nid y ffeiliau gwreiddiol, mae hi bellach yn amhosib dweud i sicrwydd os oedd y copi yn union yr un peth a'r ffeiliau gafodd eu darparu gan yr IPCC.
"O dan yr amgylchiadau, yr unig weithred gywir oedd peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth, ac felly gwahodd rheithfarnau dieuog a dod â'r achos i ben."
Adolygiad
Mae Cyfarwyddwr y CPS, Keir Starmer QC, yn bryderus iawn am y diweddglo yma.
Mae yntau a Phrif Gwnstabl Heddlu'r De, Peter Vaughan, wedi cytuno y dylid cynnal adolygiad llawn a manwl o'r amgylchiadau arweiniodd at y penderfyniad, ac y bydd Heddlu'r De yn rhoi cefnogaeth a chydweithrediad llawn i'r adolygiad.
Dechreuodd yr achos presennol ym mis Gorffennaf, a chredir ei fod wedi costio miliynau o bunnau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011