Cwmnïau yn poeni am y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae hyder rhai o bobl fusnes mwyaf blaenllaw Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ôl arolwg diweddaraf Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig.
Mae'r arolwg yn awgrymu fod mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn poeni am ragolygon economaidd i'r dyfodol.
Yn ôl system fonitro ICAEW/Grant Thornton dyma'r to cyntaf ers dechrau 2011 i fwyafrif o fusnesau Cymru fod â rhagolygon negyddol.
Roedd y mynegai ar gyfer chwarter olaf 2011 wedi gostwng o 16.5 i -9.2.
Cafodd 66 o bobl busnes amlwg eu holi ar gyfer yr arolwg.
Ond roedd yna ychydig o newyddion da, gan fod yr arolwg yn awgrymu fod gwariant cyfalaf yng Nghymru wedi codi dros y 12 mis diwethaf.
"Fe wnaeth hyder y sector fusnes gynyddu yn y ddau chwarter blaenorol, ond mae o nawr yn ôl yn negyddol," meddai David Lermon, o sefydliad cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).
"Mae effaith argyfwng yr Euro, cynnydd yn nifer y di-waith a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus yn cael effaith.
"Mae'n amlwg fod yna bryder am y rhagolygon economaidd ac ofn ein bod ar drothwy dirwasgiad arall.
"Mae hyder ymhlith y boblogaeth yn isel, ac mae prisiau ynni, bwyd a thanwydd yn taro'n galed."
Yn ôl Geraint Davies, sy'n un o bartneriaid Grant Thornton yng Nghaerdydd, mae'r busnesau sydd wedi eu taro waethaf eisoes wedi cau.
Trosiant
Dywedodd fod yna sefydlogrwydd yn nifer y swyddi yn y sector breifat.
"Ond yr her fawr fydd ceisio sicrhau fod y sector breifat yn gwneud yn iawn am y swyddi fydd yn cael eu colli yn y sector gyhoeddus."
Yn ôl yr arolwg fe wnaeth cwmnïau yng Nghymru lwyddo i gynyddu eu trosiant o 3.9% rhwng 2010-2011.
Roedd yna gynnydd o 3.1% mewn elw gros ar gyfer yr un cyfnod.
Mae cynnydd wedi bod mewn buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru.
Roedd cwmnïau ar gyfartaledd wedi cynyddu buddsoddiad cyfalaf o 2.4% yn y 12 mis hyd ddiwedd 2011.
Ond ar y llaw arall roedd cwmnïau ond yn rhagweld cynnydd o 0.2% dros y flwyddyn nesaf.
Dywed yr arolwg fod swyddi yn cael eu creu yng Nghymru yn y sector breifat.
Ond dywed yr arolwg ei bod yn bosib na fydd hyn yn ddigon gan fod lefel diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu i 9.3% o'i gymharu â 8.5% ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn credu y gallai 21,000 o swyddi gael eu colli dros gyfnod o bedair blynedd yn y sector gyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011