Scarlets a'r Gleision yn colli
- Cyhoeddwyd

Gyda nifer o chwaraewyr y ddau dîm yn absennol oherwydd gêm Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, roedd nos Wener yn dalcen caled i ranbarthau Cymru.
Yng nghynghrair RaboDirect Pro12, roedd y Scarlets a'r Gleision ar daith i Iwerddon, y naill yn Ulster a'r llall yn Leinster.
Roedd y Scarlets yn teithio i Ravenhill yn dilyn wyth buddugoliaeth yn olynnol ymhob cystadleuaeth, ond daeth y rhediad yna i ben yn erbyn Ulster.
Ulster 24-17 Scarlets
Roedd y tîm o Lanelli ar y blaen o 10-8 ar yr egwyl diolch i ddau gais gan Sean Lamont a Viliame Iongi.
Ond roedd diffyg disgyblaeth yn costio'n ddrud wrth i Ian Humphreys gicio pedair gôl gosb i'r tîm cartref i ychwanegu at gais Stephen Ferris.
Ychwanegodd Ferris ail gais wedi'r egwyl, gyda Humphreys yn trosi.
Daeth cais hwyr i Keiran Murphy i'r Scarlets wrth iddyn nhw gau'r bwlch, ond y cicio at y pyst oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.
Leinster 52-9 Gleision
Roedd buddugoliaeth Leinster yn erbyn y Gleision yn llawer mwy clir.
Dim ond troed Ceri Sweeney sgoriodd i'r tîm o Gaerdydd, ac fe gafodd amddiffyn yr ymwelwyr noson drychinebus.
Daeth naw pwynt y Gleision i gyd yn yr hanner cyntaf, ac ar yr egwyl dim ond o 13-9 yr oedden nhw ar ei hôl hi.
Ond agorodd y llifddorau wedi'r egwyl wrth i Leinster sgorio pum cais i ychwanegu pwynt bonws a halen ar y briw.
Aeth Leinster bum pwynt yn glir ar frig y tabl felly, ac fe fydd angen buddugoliaeth gyda phwynt bonws ar y Gweilch yn erbyn Munster ddydd Sadwrn er mwyn codi yn ôl i'r brig.
Ond gyda cymaint o'u chwaraewyr nhw ar ddyletswydd rhyngwladol, go brin y bydd hynny'n digwydd chwaith.
Canlyniadau :-
Nos Wener -
Ulster 24-17 Scarlets
Leinster 52-9 Gleision
Connacht 13-15 Treviso
Caeredin 50-10 Aironi
Dydd Sadwrn -
Gweilch v. Munster
Dydd Sul -
Dreigiau v. Glasgow