Cymeradwyo cynllun i droi hen ysgol ym Môn yn westy moethus

Dyluniad artist o briodas yn y gwesty newyddFfynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r datblygiad newydd yn westy 13 ystafell, ac yn cynnwys safle i gynnal priodasau

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i drawsnewid hen ysgol i fod yn westy moethus wedi cael ei gefnogi'n unfrydol gan gynghorwyr ar Ynys Môn.

Dydd Mercher fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Môn drafod y cais i newid Canolfan Penrallt, Llangefni, i fod yn westy 13 ystafell ac yn safle i gynnal priodasau.

Yn ôl yr ymgeisydd Jerry Huppert, byddai'r datblygiad yn creu 14 o swyddi llawn amser a chwe swydd rhan amser.

Ar dan y datblygwyr, dywedodd Owain Evans y byddai'n "westy boutique o safon uchel" ac yn "rhoi bywyd newydd i un o adeiladau mwyaf adnabyddus Llangefni".

Yn ogystal â chynnig 13 o ystafelloedd, ychwanegodd y byddai'r elfen briodasol yn "cynnig hwb i fusnesau lleol", ac y byddai blaenoriaeth yn cael ei roi i gontractwyr lleol i gwblhau'r gwaith adeiladu.

Canolfan Penrallt, LlangefniFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Canolfan Penrallt yn arfer bod yn ysgol adnabyddus ar yr ynys

Roedd yr adeilad - sydd wedi ei leoli ger cofeb rhyfel y dref a chanolfan hamdden Plas Arthur - yn arfer bod yn rhan o gampws Coleg Menai, cyn iddo symud i safle newydd ar gyrion y dref.

Cyn hynny roedd yn ysgol amlwg, a oedd yn cael ei hadnabod fel Ysgol Sirol Llangefni, cyn cael ei ddifrodi gan dân yn 1939.

Cafodd Ysgol Gyfun Llangefni gerllaw ei hadeiladu ar ddechrau'r 1950au.

Barn swyddogion cynllunio'r cyngor oedd bod graddfa a natur y datblygiad yn dderbyniol, a'i fod yn gyfle i ddod ag adeilad amlwg yn ôl i ddefnydd.

Roedd rhai cynghorwyr eisiau sicrwydd byddai'r gofeb restredig Gradd II yn cael ei gwarchod ac yn aros ar agor i'r cyhoedd.

Roedd aelodau hefyd yn pwyso ar y datblygwyr i sicrhau enw Cymraeg i'r datblygiad, a bod y gwasanaethau'n cael eu darparu'n ddwyieithog.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig