Diwedd y daith i Shane Williams ar y llwyfan rhyngwladol
- Cyhoeddwyd

Shane Williams cyn dechrau'r gêm
Cymru 18 -24 Awstralia
Fe orffennodd Shane Williams ei yrfa ryngwladol gyda chais yn symudiad olaf y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.
Hwn oedd y 58fed gais yn ei grys rhyngwladol ond colli fu hanes Cymru. Awstralia oedd yn fuddugol gyda thri chais yn yr ail hanner.
Cyn dechrau'r gêm roedd y dorf yn llawn emosiwn gyda munud o gymeradwyaeth er cof am gyn Reolwr Tîm Pêl-droed Cymru Gary Speed.
Hon oedd gêm olaf Shane i Gymru ac roedd y dagrau'n llifo yn ystod yr anthemau.
Camgymeriadau
Roedd yr hanner cyntaf yn anniben gyda'r dyfarnwr yn rhy barod gyda'i chwiban.
Cymru aeth ar y blaen oherwydd cic gosb Rhys Priestland o 40 metr.
Ar ôl 12 munud fe ddaeth y bêl i Shane ar yr asgell chwith ond yn anffodus fe aeth y bêl ymlaen o'i ddwylo.
Roedd yna gamgymeriadau gan y ddau dîm drwy'r hanner cyntaf. Methodd O'Connor gyda chig gosb, ond bron i Awstralia fynd ar y blaen
Fe lwyddodd Barnes i gicio heibio ysgwydd Shane Williams, gyda Lachie Turner yn casglu'r bêl gan anelu at y gornel.
Llwyddodd Williams i'w daclo, gyda'r dyfarnwr fideo yn penderfynu yn erbyn rhoi cais.

Shane Williams yn atal cais gan Lachie Turner
Ar ôl rhediad cryf Ian Evans dyfarnwyd fod Awstralia yn camsefyll.
Roedd yna dri phwynt arall i Priestland.
Ond atebodd O'Connor gyda chig gosb i Awstralia, gan olygu fod Cymru ar y blaen 6-3 ar yr egwyl.
Ar ddechrau'r ail hanner cafodd Halfpenny ei anfon i'r gell gosbi ar ôl taclo O'Connor cyn iddo dderbyn y bêl.
Pwysodd Awstralia a daeth y bêl i'r mewnwr Genia lwyddodd i groesi'r llinell.
Ar ôl yr ailddechrau dyfarnwyd cig gosb arall i Awstralia.
Tarodd yr ergyd yn erbyn y postyn ond daeth y meddiant yn ôl i Awstralia a chroesodd Turner am yr ail gais.
Manteisio
Llwyddodd O'Connor gyda'r gic, gan roi Awstralia ar y blaen 17-6.
Roedd trydydd cais i ddilyn wrth i Awstralia fanteisio ar absenoldeb Halfpenny a phas Radike Samo yn caniatáu i Barnes groesi.
Fe darodd Cymru yn ôl, wrth i Geroge North ddefnyddio ei gryfder i ennill tir.
Cafodd y bêl ei hailgylchu'n gyflym ac fe groesodd Priestland.
Doedd yna ddim digon o amser i Gymru achub y gêm ond roedd diweddglo hapus i Williams.
Gyda symudiad olaf y gêm fe ddaeth y bêl i'r dewin bach osgodd dacl Barnes cyn croesi.
Cymru: Cais: Priestland, Williams; Trosgais: Biggar; Cig gosb: Priestland
Awstralia: Cais: Genia, Turner, Barnes; Trosgais: O'Connor (3); Cig gosb: O'Connor