Cofio'r Cymry a gollwyd
- Cyhoeddwyd
Mae 2011 yn dirwyn i ben gyda'r newyddion am farwolaeth rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn dal i fod yn rhywbeth anghredadwy.
Yn ystod y flwyddyn fe gollwyd nifer o Gymry.
Yn eu plith actorion, cerddorion, beirdd a llenorion.
Collwyd gwleidyddion, garddwr a newyddiadurwyr hefyd.
Mae BBC Newyddion Arlein yn edrych yn ôl ar rai o'r Cymry a fu farw yn ystod 2011.
GARY SPEED
Ddiwedd Tachwedd fe synnwyd pawb gyda marwolaeth rheolwr tim pel-droed Cymu. Roedd Gary Speed yn 42 oed.
Cafwyd hyd iddo yn ei gartref yn Sir Caer wedi crogi.
Llifodd y teyrngedau iddo yn yr oriau wedi'r newyddion gyda'r byd pêl-droed a thu hwnt mewn sioc o golli pêl-droediwr arbennig a rheolwr oedd yn cael llwyddiant efo Cymru.
Mae rhai o'r timau y bu Speed yn gysylltiedig â nhw wedi cynnal eu teyrngedau eu hunain i'r gŵr a anwyd ac a fagwyd yn Sir y Fflint.
Fe fydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn cynnal eu teyrnged nhw yn y flwyddyn newydd.
Cafodd angladd preifat ei gynnal ym Mhenarlâg i deulu a ffrindiau agos yn unig.
STEWART JONES
Er ei fod yn Gymro Cymraeg balch, Albanwr oedd o o ran ei enedigaeth.
Fel Stewart Whyte McEwan y cafodd ei fedyddio wedi ei eni yng Nghaeredin.
Ond cafodd ei fabwysiadu gan deulu o Eifionydd ac ychwanegwyd y Jones at ei enw.
Yno y cafodd ei fagu, a lle oedd mor agos at ei galon.
Roedd yn un o leisiau mwyaf cyfarwydd y theatr yng Nghymru ac roedd yn adnabyddus hefyd am ei rannau mewn ffilmiau a chyfresi teledu.
Bydd yn cael ei gofio am gymeriad greodd ei ffrind, y dramodydd Wil Sam, Ifas y Tryc.
Bu farw, dolen allanol ar Orffennaf 26 2011 yn 83 oed.
HUW CEREDIG
Am bron i 30 mlynedd bu Huw Ceredig i'w weld yng Nghwmderi fel Reg Harries.
Ond cafodd yrfa oedd yn cwmpasu llawer mwy na chyfres deledu Pobol y Cwm.
Wedi ei eni ym Mrynaman yn un o bedwar o hogia'r Mans fe wnaeth ymddangos hefyd fel Fatty Lewis yn y ffilm Twin Town, yn ogystal ag ymddangos yn Z Cars, Enoc Huws a Hawksmoor.
Wedi salwch hir bu farw'r actor ar Awst 16 2011 yn 69 oed.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedod Lisabeth Miles - a fu'n chwarae rhan Megan Harries yn Pobol y Cwm - fod Huw Ceredig "yn hael fel actor ac roedd ei gyfraniad o fel yna yn holl bwysig, yn teimlo'n ddiogel yn ei bresenoldeb ac fe wnes i fwynhau gweithio efo fo".
Cafodd ei angladd ei gynnal, dolen allanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
ISLWYN MORRIS
Un arall o actorion Pobol y Cwm a gollwyd yn ystod y flwyddyn oedd Islwyn Morris.
Fo oedd yn chwarae rhan David Tushingham yn y gyfres am 25 mlynedd.
Cafodd teyrngedau, dolen allanol eu rhoi iddo gan ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig".
Bu'n chwarae amryw o rannau yn ystod ei yrfa, o'r trwsiadus Mr Tushingham i'r ffwdanus Idris Price yn y gomedi boblogaidd Satellite City.
Ymddangosodd yr actor 90 oed yn ystod y 1970au fel yr Arolygydd Idris Vaughan yn y gomedi Glas y Dorlan a bu hefyd yn y gyfres High Hopes.
Cafodd rannau hefyd yng nghyfresi Z Cars a The District Nurse.
MARGARET JOHN
Actores a fu farw ym mis Chwefror yn 84 oedd Margaret John.
Roedd hi'n un o sêr y gyfres gomedi Gavin and Stacey.
Bu farw mewn ysbyty, dolen allanol yn Abertawe wedi salwch byr.
Cafodd ei disgrifio fel "trysor cenedlaethol".
Hi oedd yn chwarae rhan Doris, oedd yn enwog am ei dywediadau lliwgar, yn y gyfres lwyddiannus oedd wedi ei lleoli yn Ynys y Barri, gyda Ruth Jones a James Corden.
Bu hi ac Islwyn Morris yn rhan o'r gyfres gomedi BBC Cymru, High Hopes gan chwarae rhan y fam.
Ar ddechrau ei gyrfa roedd am gyfnod byr yn Coronation Street yn 1965 a chafodd rannau hefyd yn Z Cars, Doctor Who, Dixon of Dock Green, Emmerdale Farm a Pobol y Cwm.
LES MORRISON
Ym mis Ebrill bu farw'r cerddor Les Morrison., dolen allanol
Roedd yn ei 50au ac wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty.
Bu ei stiwdio recordio ym Methesda yn feithrinfa i nifer grwpiau.
Ymhlith y bandiau i gael y cyfle i recordio yno oedd y Super Furry Animals, Cerys Matthews a The Peth.
Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys, ei fod yn "arwr addfwyn ac anturiaethwr... a gefnogodd gerddorion ei fro i'r carn."
Ym mis Awst cafodd Pesda Roc ei chynnal a oedd er cof am Les Morrison.
WJ GRUFFYDD
Yn ystod 2011 fe gollwyd tri chyn-Archdderwydd.
Ym mis Ebrill bu farw'r Prifardd WJ Gruffydd, dolen allanol yn 94 oed wedi salwch hir.
Bu'n Archdderwydd rhwng 1984 a 1986 gan ddefnyddio'r enw Elerydd.
Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym Mhwllheli yn 1955 a phum mlynedd yn ddiweddarach yng Nghaerdydd.
GERAINT BOWEN
Ym mis Gorffennaf wedyn collwyd Y Prifardd Geraint Bowen a oedd yn 95 oed.
Yn ogystal a bod yn fardd roedd yn feirniad a golygydd, dolen allanol.
Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1978 a 1981.
Fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 am ei Awdl Foliant i'r Amaethwr, teyrnged i'r cyfnod pan weithiodd ar y tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd ei eni yn Llanelli a'i addysgu yn Ysgol Sir Aberaeron ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd.
Bu'n athro yn Ysgolion Gramadeg Tonyrefail a Rhiwabon ac yna'n arolygydd ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Meirionnydd.
Gyda'i wraig Zonia fe ysgrifennodd Hanes Gorsedd y Beirdd ac fe gyhoeddwyd y gyfrol honno ym 1991.
SELWYN GRIFFITH
Wedi cyfnod o salwch ar Awst 10 fe fu farw'r Prifardd Selwyn Iolen.
Roedd o'n 83 oed a fo oedd Dirprwy Archdderwydd Cymru.
Bu farw , dolen allanol ym Mhenisarwaun.
Wnaeth o ddim crwydro llawer o'i filltir sgwar ar ôl ei eni ym Methel, Caernarfon.
Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989 ac roedd yn Archdderwydd rhwng 2005 a 2008.
Fe wasanaethodd hefyd yn ystod gwaeledd Dic Jones.
Bu'n gweithio ym myd llywodraeth leol gyda Chyngor Gwledig Gwyrfai am 18 mlynedd cyn dilyn cwrs athro yn y Coleg Normal ym Mangor.
Bu'n dysgu yn ysgolion Cadnant yng Nghonwy, Penybryn Bethesda, Dolbadarn Llanberis ac fel Prifathro Ysgol Gynradd Rhiwlas.
BRYNLE WILLIAMS
Roedd Aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru wedi troi at wleidydda wedi cyfnod yn llygad y cyhoedd fel protestiwr ar ddechrau'r mileniwm newydd.
Bu farw Brynle Williams yn 62 oed, dolen allanol wedi cyfnod hir o waeledd ym mis Ebrill.
Tair blynedd wedi'r protestiadau tanwydd cafodd Mr Williams ei ethol i Fae Caerdydd.
Roedd yn llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Gwledig ac, fel ffermwr, ei brif ddiddordebau oedd amaethyddiaeth ac economi cefn gwlad.
Yn ogystal ag amaethu roedd hefyd bridio merlod a chobiau Cymreig.
Cafodd ei wneud yn aelod oes o'r Gymdeithas Cobiau a bu'n feirniad rhyngwladol uchel ei barch.
Caerwyn Roderick
Roedd Caerwyn Roderick yn wleidydd ac fe wnaeth gynrychioli Brycheiniog a Maesyfed dros y Blaid Lafur am bron i 10 mlynedd.
Cafodd ei ethol yn 1970 a daliodd ei afael ar ei sedd tan Etholiad Cyffredinol 1979 pan gollodd i'r Ceidwadwr Tom Hooson.
Roedd hefyd yn gyn-athro ac yn drefnydd undeb athrawon yr NUT yng Nghymru.
Bu farw ym mis Hydref yn 84 oed.
MICHAEL FARMER
Ym mis Ebrill daeth y newyddion bod Yr Anrhydeddus Farnwr Michael Farmer QC , dolen allanol wedi marw ar ôl cael ei daro'n wael tra yn Llundain.
Roedd yn 66 oed ac yn farnwr Cylchdaith Cymru a Chaer ers 2001.
Roedd yn gadeirydd adolygiad arbennig i Gyngor Sir Ynys Môn yn 1998-99.
Bu hefyd yn weithgar yn wleidyddol ac roedd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Conwy dros Blaid Cymru yn 1974.
Ond fel athro y cychwynnodd ei yrfa wedi ei fagwraeth yn Nyffryn Nantlle.
Fe ddaeth yn fargyfreithiwr yn 1972 ac yn 1995 fe ddaeth yn Gofiadur Llys y Goron ac yn farnwr yn 2001.
Yn 2004 cafodd ei ddewis yn Farnwr Materion Teuluol Gogledd Cymru ac roedd yn frwd o blaid y Gymraeg.
HAFINA CLWYD
Wedi cyfnod yn dioddef o ganser bu farw'r newyddiadurwr, yr awdur a'r colofnydd Hafina Clwyd ym mis Mawrth yn 74 oed.
Hi oedd golygydd olaf Y Faner, dolen allanol yn ac roedd wedi cyhoeddi 11 o gyfrolau.
Yn wreiddiol o Wyddelwern cafodd ei magu yn Nyffryn Clwyd.
Wedi cyfnod yn y coleg ym Mangor i hyfforddi i fod yn athrawes aeth i Lundain i chwilio am waith a rhoi yno i fywyd Cymraeg y ddinas.
Bu'n ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau, yn fwya diweddar Y Cymro, Y Wawr a'r Western Mail.
Richard Bowering
Yn arbenigwr garddio fe wnaeth Richard Bowering, dolen allanol gyfrannu yn helaeth i raglenni radio a theledu.
Bu'n cyfrannu yn Gymraeg a Saesneg gan rannu ei arbenigedd a chynulleidfaoedd.
Yn ôl ei deulu roedd wedi cael bywyd hir, gwych a llwyddiannus.
Dilynodd ei dad o ran y garddio gan mai ei dad oedd prif arddwr stad yr Arglwydd Harlech.
Ond llwyddodd Richard Bowering i wneud enw iddo'i hun yn y maes ac yn llais ac yn wyneb adnabyddus.
Bu farw ym mis Mai yn 87 oed a dywedodd ei deulu bod ei ardd yn Aberhonddu yn "dyst i'w arbenigedd felly hefyd y nifer eraill ar hyd y wlad y bu'n cyfrannu tuag atyn nhw".
SELWYN RODERICK
Selwyn Roderick oedd un o gynhyrchwyr teledu cyntaf, dolen allanol y BBC yng Nghymru.
Roedd yn ffigwr allweddol yn natblygiad teledu yng Nghymru gan arloesi yn y cyfrwng yn y Saesneg a'r Gymraeg, a hynny ar draws ystod eang o feysydd.
Gweithiodd ar raglenni mor amrywiol â 'Come Dancing', 'Songs of Praise' a 'Your Life in Their Hands'.
Fe'i cofir hefyd am gynhyrchu'r rhaglen ddogfen gofiadwy am Batagonia, 'Plant y Paith', gydag Owen Edwards a 'Wales, Wales!', y gyfres ddadleuol a nodedig gyda Dai Smith.
Bu farw ym mis Mawrth yn 82 oed.