Sian Gwynedd i arwain gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Gwynedd sydd wedi ei phenodi yn Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, gan ddechrau'r swydd yn syth.
Bydd ganddi gyfrifoldeb dros ddatblygu allbwn Cymraeg BBC Cymru - ar draws teledu, radio ac ar-lein/digidol.
Yn Olygydd BBC Radio Cymru ers 2006, bu Sian yn Bennaeth Gweithredol Rhaglenni Cymraeg yn BBC Cymru ers dechrau'r flwyddyn.
Bu ei chyfrifoldebau'n cynnwys rhaglenni Cymraeg eu hiaith a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar gyfer S4C, gan gynnwys newyddion, rygbi, a'r gyfres ddrama boblogaidd Pobol y Cwm.
Mae cefndir Sian mewn newyddiaduraeth ac ymunodd â'r BBC yn 1994 fel ymchwilydd ar Newyddion Radio Cymru a daeth yn Olygydd rhaglen Newyddion yn 2003.
Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf bu'n gweithio yng Nghymru fel newyddiadurwr papurau newydd a chylchgronau ac fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ar nifer o raglenni newyddion radio a theledu.
'Dawn a phrofiad'
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies: "Mae Sian yn arweinydd golygyddol hynod brofiadol a chanddi ymroddiad dwfn i ddarlledu yn Gymraeg.
"Ar amser llawn newid a heriau, mae ganddi'r ddawn a'r profiad i sicrhau y bydd ein rhaglenni a'n gwasanaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol ym mywyd y genedl."
Dywedodd Sian Gwynedd: "Rydw i wrth fy modd gyda'r cyfle newydd hwn. Rwy'n edrych ymlaen i barhau i weithio gyda chydweithwyr o fewn BBC Cymru a phartneriaid allanol i ddarparu'r darlledu gorau yn Gymraeg i gynulleidfaoedd yng Nghymru."
Yn dilyn penodiadau Adrian Davies yn Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau (Saesneg) a Richard Thomas yn Bennaeth Marchnata, Cyfathrebu a Chynulleidfaoedd, mae penodiad Sian Gwynedd yn cwblhau'r penodiadau i Fwrdd Rheoli BBC Cymru wedi ei ailstrwythuro.