Bandio ysgolion uwchradd
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion uwchradd Cymru wedi cael gwybod i ba fand maen nhw'n perthyn.
Yn ôl system graddio Llywodraeth Cymru, mae'r bandio'n seiliedig ar berfformiad canlyniadau TGAU a phresenoldeb.
Mae yna bum band ac does 'na ddim un ysgol ym Mand 1 mewn chwe sir.
Ond yn fwy na thraean y cynghorau sir, does dim ysgol yn y band isaf, Band 5.
Mae undebau athrawon wedi cyhuddo'r llywodraeth o "enwi a chywilyddio" ysgolion sy'n wynebu anawsterau.
Ond mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi dweud nad ydi'r system yn ffordd o ddychwelyd at yr hen drefn, tablau cynghrair gafodd eu dileu yng Nghymru yn 2001.
Lawrlwytho'r wybodaeth yn llawn
[437kb] Manylion llawn bandiau ysgolion uwchradd
Swyddogion y llywodraeth sydd wedi dyfeisio fformiwla sy'n rhoi'r sgôr unigol i bob ysgol uwchradd wedi'i seilio ar 11 mesur yn ystod blwyddyn addysgol 2010-11.
Mae'r sgôr yn cael ei haddasu er mwyn rhoi ystyriaeth i nifer y plant sy'n cael cinio am ddim, arwydd o lefel tlodi disgyblion.
'Pryder'
Mae'r sgôr hefyd yn adlewyrchu datblygiad yr ysgol dros gyfnod, gan wobrwyo'r rhai sydd wedi gwella eu perfformiad.
Dywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, na allai gradd gynrychioli holl waith ae ysgol.
"Rydym yn hynod o bryderus bod cyraeddiadau ysgolion yn y bandiau isa', yn enwedig y rhai sy'n gwella flwyddyn wrth flwyddyn drwy ganolbwyntio yn ddiflino ar safonau a dibynnu ar eu staff a chymunedau i fynd y filltir ychwanegol, yn cael eu hanwybyddu."
Mae'r system bandio wedi ei chyflwyno fel rhan o 20 o welliannau gafodd eu cyflwyno gan y Gweinidog Addysg i wella safonau ysgolion.
Mae 'na gynlluniau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i ddatblygu system fandio ar gyfer ysgolion cynradd.
'Cyrhaeddiant'
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu'r bandio.
Dywedodd llefarydd: "Mae bandiau yn sicrhau bod pawb yn y system addysg yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella cyrhaeddiant pobl ifanc.
"Dyw hyn ddim yn ymwneud â chreu cynghrair ar gyfer ysgolion."
Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru undeb yr NUT, fod athrawon "yn gwrthwynebu'r broses fandio'n gryf".
"Mae enwi a chywilyddio ysgolion yn rhywbeth yr ydym yng Nghymru wedi symud oddi wrtho ac mae'n siomedig iawn fod y llywodraeth wedi dychwelyd at hen arfer," meddai.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Y peryg yw bod y system bandio'n gyfystyr â Thabl Cynghrair - nid mewn bwriad, ond mewn ffaith - a'i bod yn camarwain yn lle cynnig tryloywder ac yn digalonni athrawon ac ysgolion yn hytrach na chynnig cefnogaeth adeiladol."
Cefnogaeth
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod mai dim ond manylion y band fydd yn cael eu cyhoeddi yn hytrach na sgôr unigol pob ysgol.
Golyga hyn na fydd hi'n bosib dweud pa mor agos yw ysgol i ffin pob band na faint o gynnydd y mae ysgolion yn ei wneud.
Yn ôl y llywodraeth bwriad y system yw adnabod yr ysgolion sydd wir angen cefnogaeth, er na fydd 'na gyllid ychwanegol ar gael i ysgolion sydd angen gwella.
Fe fydd ysgolion yn cael cefnogaeth ychwanegol drwy Wasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion.
Ond mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall na fydd y gwasanaeth ar gael tan fis Medi 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011