Teyrnged i fam 'cariadus a gofalgar' fu farw mewn tân ger Bwlch-llan

Bu farw Heather Edwards yn dilyn tân mewn eiddo ger Bwlch-llan ar 15 Medi
- Cyhoeddwyd
Mae teulu menyw 40 oed fu farw mewn tân yng Ngheredigion ym mis Medi wedi rhoi teyrnged i fam "cariadus a gofalgar".
Bu farw Heather Edwards yn dilyn tân mewn eiddo ger Bwlch-llan ar 15 Medi.
Dywedodd y gwasanaeth tân ar y pryd fod criwiau wedi brwydro yn erbyn tân oedd "wedi datblygu'n sylweddol" mewn adeilad deulawr sydd ynghlwm wrth ffermdy a'u bod wedi dod o hyd i gorff ar ôl i'r tân ddod dan reolaeth.
Fe gafodd dyn 58 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad, ond cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach gyda'r heddlu'n cadarnhau na fydd yn wynebu camau pellach.
'Goleuo bywydau'r rhai o'i chwmpas'
Dywedodd teulu Ms Edwards mewn datganiad ddydd Gwener ei bod yn fam ymroddgar, yn bartner ffyddlon i Geraint ac yn ferch i Dai a'r diweddar Kathleen.
"Roedd yn chwaer arbennig i Gwyn, yn 'hanner arall i'r ŵy' gyda Gill ac yn fodryb falch i'w pum nai - a oedd yn meddwl y byd ohoni.
"Roedd Heather yn berson cariadus, gofalgar a llawn hwyl a oedd yn goleuo bywydau'r rhai o'i chwmpas.
"Roedd ei charedigrwydd, hiwmor a'i haelioni yn cael effaith ar bawb yr oedd yn ei hadnabod, ac mae ei cholli wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau.
"Fe fydd dy blant yn tyfu fyny yn gwybod yn union pwy oeddet ti - dy gariad, dy gryfder a'r llawenydd oedd yn dy ddilyn di i bob ystafell."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi

- Cyhoeddwyd16 Medi
