Cefnogwyr yn cofio Gary Speed

  • Cyhoeddwyd
Cyn beldroedwyr Leeds, Gary McAllister, Gordon Strachan a David Batty - yn gosod torch er cof am Gary Speed cyn dechrau'r gêm yn erbyn Millwall.Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cyn beldroedwyr Leeds, Gary McAllister, Gordon Strachan a David Batty - yn gosod torch er cof am Gary Speed cyn dechrau'r gêm yn erbyn Millwall.

Mae cefnogwyr pêl-droed a rygbi wedi bod yn rhoi rhagor o deyrngedau er cof am reolwr Cymru Gary Speed.

Yn Stadiwm y Mileniwm roedd yna funud o dawelwch, wnaeth droi yn gymeradwyaeth, cyn y gêm rygbi rhwng Cymru ac Awstralia.

Ac roedd munud o gymeradwyaeth er cof am y pêl-droediwr cyn pob un o'r gemau yn yr Uwchgynghrair.

Cafwyd hyd i Speed, 42 oed, yn farw yn ei gartre yn Swydd Caer ddydd Sul.

Fe deithiodd ei weddw, Louise, i Leeds United clwb cyntaf y peldroediwr.

Ar gais gan Mrs Speed, mae Newcastle United wedi gohirio cynlluniau i roi teyrnged arbennig i'r chwaraewr wnaeth gynrychioli'r clwb 285 o weithiau.

Roedd Mrs Speed wedi dweud y byddai'n dymuno bod yn bresennol ar gyfer y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau i Speed yn Ellan Road, Leeds.

Roedd Newcastle wedi trefnu y byddai'r dorf o 52,000 yn canu Cwm Rhondda, tra bod cefnogwyr yn yr eisteddle dwyreiniol yn arddangos cardiau er mwyn ffurfio'r rhif 11, sef rhif crys Speed.

Fe wnaeth cefnogwyr Newcastle gymryd rhan yn y munud o gymeradwyaeth heddiw, tra bydd eu teyrnged lawn yn cael ei roi ar Ragfyr 17, pan fydd y clwb yn chwarae Abertawe.

Yn Ellan Road, Leeds, cafodd torch ei osod gan reolwr y clwb Simon Grayson, cyn y gêm yn erbyn Millwall.

Yno hefyd roedd rheolwr Millawll, Kenny Jackett fu'n chwarae i Gymru yr un adeg a Speed a rhai o gyn chwaraewyr Leeds, Gary McAllister, Gordon Strachan a David Batty.

Roedd munud o dawelwch yn Sheffield United, un arall o hen glybiau Speed.

Fe wnaeth Robert Page, cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, osod torch wrth ymyl y cae cyn y gêm gwpan yn erbyn Torquay.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Uefa paid a tribute to Speed at the Euro 2012 draw in Kiev

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae'n bwysig fod rygbi yn rhoi teyrnged i Gary Speed, a'r gêm ryngwladol ddydd Sadwrn yw'r cyfle cynta i'r tîm cenedlaethol i wneud hynny ac mae'n deyrnged addas. "

Ddydd Gwener yn Kiev fe wnaeth Uefa, y corff sy'n rheoli pel-droed yn Ewrop, roi teyrnged i gyn reolwr Cymru.

Roedd y gwledydd yn Kiev wrth i'r grwpiau gael eu dewis ar gyfer cystadleuaeth Euro 2012.

Dangoswyd llun o Speed ar sgrin fawr

Dywedodd Gianni Infantino o Uefa fod Speed yn un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y gamp.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol