Paneli solar: Haneru'r taliadau

  • Cyhoeddwyd
Paneli solarFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant paneli solar yn cyflogi tua 25,000 o bobl yn y DU

Ddydd Llun mae Llywodraeth San Steffan yn haneru'r taliadau mae cwmnïau trydan yn eu rhoi i berchnogion tai sy'n cynhyrchu ynni'r haul.

Mae'r tâl am drydan paneli solar ar dai yn gostwng o 43.3c y cilowat awr i 21c i unrhyw un sy'n cofrestru eu system ar ôl Rhagfyr 12.

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas y Cyflogwyr wedi beirniadu'r penderfyniad.

Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn wynebu dwy her gyfreithiol bosib gan Gyfeillion y Ddaear a chyfreithwyr sy'n cynrychioli gosodwyr paneli solar.

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr adran: "Pe na bawn ni wedi newid y drefn fe fyddai'r cyllid ar gyfer y tariff cyflenwi trydan wedi diflannu'n llwyr."

Fis diwethaf, fe wnaeth un o swyddogion cwmni electroneg Sharp wadu eu bod yn ystyried cau eu ffatri lle mae paneli solar yn cael eu cynhyrchu.

Ond fe wnaeth Andrew Lee, Pennaeth Gwerthiannau Ewrop Sharp Solar, gadarnhau bod y cwmni yn adolygu unrhyw ehangu yn Llai ger Wrecsam.

Mae hyn oherwydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i leihau'r cymorthdaliadau ar gyfer trydan solar cartref.

Mae Sharp yn cyflogi 400 o bobl a 100 o weithwyr asiantaeth yn y gogledd ac fe agorodd y cwmni safle hyfforddiant i osodwyr paneli yn ddiweddar.

'Ar eu colled'

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Iolo ap Dafydd

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y cwmni y byddai ehangu gwerth £30m yn Llai yn creu 300 o swyddi newydd.

Yn y cyfamser, mae elusen sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai cymunedol yng Nghymru wedi dweud y bydd "miloedd o denantiaid ar eu colled" wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau.

Mae cymdeithasau tai wedi bod yn datblygu prosiectau i osod paneli ar filoedd o dai eu tenantiaid yng Nghymru, gan fwriadu gostwng eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon.

Ond yn ôl Cartrefi Cymunedol Cymru, mae llawer o'r cynlluniau yn annhebyg o gael eu gwireddu gan na fydd y taliadau newydd yn ddigonol o ystyried costau gosod a chynnal y paneli.

Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: "Ar ôl gostwng y taliadau, bydd nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol ddim yn gallu dechrau neu barhau â phrosiectau.

"Bydd hyn yn golygu y bydd miloedd o denantiaid - y mae llawer ohonynt yn byw mewn tlodi tanwydd - yn colli'r cyfle i leihau eu biliau trydan, ar adeg pan fo biliau ynni yn cynyddu'n fawr".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol